Ffi Cynadleddwyr
Gallwch gadw’ch lle yma. Codir £75.00 y pen i fynychu’r gynhadledd.
Cwblhewch holl adrannau perthnsol y ffurflen isod a’i dychwelyd i StandardsAndEthicsConferenceWales@caerdydd.gov.uk erbyn dydd Iau 1 Hydref 2015.
Cynhadledd ffurflen archebu (40kb DOC)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Gweithdai’r Gynhadledd
I fynd i un o weithdai’r digwyddiad eleni, bydd angen i bob cynadleddwr nodi ei ddewis ymlaen llaw.
Cynhelir dwy sesiwn gweithdy – un am 12.00pm-1.00pm ac un am 2.00pm-3.00pm – a chan bob un chwe gweithdy.
Gweithdai – Sesiwn Un
12.00pm i 1.00pm |
1 |
Cyfryngau Cymdeithasol – Cadw Draw o Drwbl
Gweithdy dan arweiniad Daniel Hurford, CLlLC, a’r Swyddfa Monitro, yn ystyried arfer gorau, achosion diweddaraf a chyfraith achos. |
2 |
Chwythu’r Chwiban – Addasu i ddelio â modelau gweithredu newydd i’r gwasanaethau cyhoeddus
Gweithdy dan arweiniad y Swyddfa Monitro yn adolygu arfer gorau, rôl y pwyllgor safonau a moeseg wrth adolygu achosion a dulliau cyfathrebu. |
3 |
Cynghorau Cymuned – Llywodraethu a Safonau
Gweithdy dan arweiniad Un Llais Cymru a’r Swyddfa Monitro yn edrych ar brofion arfaethedig newydd LlC ar gymhwysedd; democratiaeth; gallu; capasiti a Llywodraethu. |
4 |
Datrys Cwynion yn Lleol – Yn ymarferol
Gweithdy i edrych ar y broses o wrandawiadau panel, sesiwn chwarae rôl a delio â’r cyfryngau, dan arweiniad y Swyddfa Monitro. |
5. |
A yw Egwyddorion Nolan yn addas at y diben yn yr hinsawdd bresennol a thros yr 20 mlynedd nesaf?
Gweithdy i barhau â’r Drafodaeth Panel dan arweiniad y Swyddfa Monitro. |
6. |
Cywirdeb ym maes Cynllunio - Diweddariad
Gweithdy i adolygu statws presennol y Protocol Cynllunio sy’n ofynnol dan y Ddeddf Gynllunio, dan arweiniad y Swyddfa Monitro. |
Gweithdai – Sesiwn Dau
2.00pm i 3.00pm |
1. |
Cyfryngau Cymdeithasol – Cadw Draw o Drwbl
Gweithdy dan arweiniad Daniel Hurford, CLlLC, a’r Swyddfa Monitro, yn ystyried arfer gorau, achosion diweddaraf a chyfraith achos. |
2. |
Chwythu’r Chwiban – Addasu i ddelio â modelau gweithredu newydd i’r gwasanaethau cyhoeddus
Gweithdy dan arweiniad y Swyddfa Monitro yn adolygu arfer gorau, rôl y pwyllgor safonau a moeseg wrth adolygu achosion a dulliau cyfathrebu. |
3. |
Cynghorau Cymuned – Llywodraethu a Safonau
Gweithdy dan arweiniad Un Llais Cymru a’r Swyddfa Monitro yn edrych ar brofion arfaethedig newydd LlC ar gymhwysedd; democratiaeth; gallu; capasiti a Llywodraethu. |
4. |
Datrys Cwynion yn Lleol – Yn ymarferol
Gweithdy i edrych ar y broses o wrandawiadau panel, sesiwn chwarae rôl a delio â’r cyfryngau, dan arweiniad y Swyddfa Monitro. |
5. |
A yw Egwyddorion Nolan yn addas at y diben yn yr hinsawdd bresennol a thros yr 20 mlynedd nesaf?
Gweithdy i barhau â’r Drafodaeth Panel dan arweiniad y Swyddfa Monitro. |
6. |
Cywirdeb ym maes Cynllunio - Diweddariad
Gweithdy i adolygu statws presennol y Protocol Cynllunio sy’n ofynnol dan y Ddeddf Gynllunio, dan arweiniad y Swyddfa Monitro. |
Derbyniad Gyda'r Nos Yn Y Plasty - Dydd Llun 19 Hydref 2015
Bydd Dirprwy Arglwydd Faer Caerdydd, Y Cynghorydd Dilwar Ali yn cynnal derbyniad cyn y gynhadledd yn y Plasty ar nos Lun 19 Hydref 2015 o 6.30pm. I gadw llefydd yn y derbyniad gyda’r nos, nodwch faint o gynadleddwyr o’ch parti a hoffai fynychu ar y ffurflen archebu. Digwyddiad am ddim yw hwn.
Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
Archebu Lllety
Mae gan Gaerdydd ystod eang o westai yng nghanol y ddinas nid nepell o Neuadd y Ddinas, ac mae pob un yn cynnig prisiau sy’n addas i bob poced. Dylai cynadleddwyr gadw llety drwy Swyddfa Gynadledda Caerdydd gan ddyfynnu ‘Standards Conference Wales’.
I gadw lle, ewch i’r wefanDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd neu ffoniwch (029) 2087 1846.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu fod angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:
Alex Martin,
Cymorth Democrataidd,
Cyngor Caerdydd,
Ystafell 286,
Neuadd y Sir,
Caerdydd,
CF10 4UW
Ffôn: 029 2087 3905