Parcio
Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd i barcio yn Neuadd y Ddinas. Ceisiwch barcio yn eich gwesty neu ddefnyddio un o feysydd parcio NCP yng nghanol y ddinas, sydd dafliad carreg o Neuadd y Ddinas:
NCP Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd CF10 3AD (06.00 – 00.00)
NCP Plas Dumfries, Caerdydd CF10 3FN (24 awr)
www.ncp.co.ukDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Bwyd a ddiod
Mae gan Gaerdydd bob math o fwytai sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb, o brydau Cymreig traddodiadol i fwytai Eidalaidd neu Indonesiaidd. I gael rhagor o wybodaeth am fwytai a chaffis lleol ewch i www.visitcardiff.comDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Pethau i'w Gweld
P’un ai a ydych yng Nghaerdydd ar fusnes neu i fwynhau, mae gan y Brifddinas ystod eang o leoliadau cynadledda a chyfarfod yn ogystal â llond y lle o adloniant, diwylliant, hanes a siopau. Mae’n brofiad perffaith i ymwelwyr, gyda nifer o atyniadau unigryw fel Castell Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru ac Amgueddfa Werin Cymru. Os ydych yn un am siopa, nid yw bwrlwm canol y ddinas ond rai munudau o’r parciau prydferth a bae bendigedig Caerdydd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.visitcardiff.comDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd