Mae’r gwasanaeth Gwastraff Masnach yn rhan o Gyngor Caerdydd, sy’n Rheolwr Data at ddibenion y wybodaeth a gasglwyd.
Y math o wybodaeth bersonol a gasglwn
Ar hyn o bryd rydym yn casglu ac yn prosesu'r wybodaeth ganlynol:
Sut y cawn yr wybodaeth bersonol a pham mae gennym
Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth bersonol a gaiff ei phrosesu gennym yn cael ei rhoi’n uniongyrchol gennych chi am un o'r rhesymau canlynol:
Rydym yn defnyddio'r wybodaeth yr ydych wedi'i rhoi i ni er mwyn:
Efallai y byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'n darparwr meddalwedd gweithredol, Selected Interventions Ltd, i gefnogi ein gweithrediadau. Mae'r darparwr hwn yn gweithredu fel y Prosesydd Data ac ond yn prosesu'r data hwn fel y nodir gan Dîm Gwastraff Masnach Cyngor Caerdydd. Nid yw'r data ar gael i Selected Interventions Ltd, i'w ddefnyddio at unrhyw ddiben arall, fel y nodir mewn Cytundeb Prosesu Data.
Dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw:
- Mae gennym rwymedigaeth gytundebol.
Cyn belled â bod gennym fanylion cyswllt ar gyfer o leiaf un unigolyn ar gyfer pob cytundeb cytundebol, mae gennych yr hawl i ofyn am ddileu eich gwybodaeth.
Sut rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol
Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio'n ddiogel yn ddigidol ar system cwmwl (Microsoft Azure) sydd wedi’i lleoli naill ai yn Ne'r DU neu Orllewin y DU.
Rydym yn cadw'r holl wybodaeth bersonol (h.y. enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) drwy gydol unrhyw gytundeb cytundebol, ac am hyd at 2 flynedd ar ôl terfynu contract. Yna byddwn yn gwaredu eich gwybodaeth, drwy ddileu'r holl gofnodion digidol.
Eich hawliau diogelu data
Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:
Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
- Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.
Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.
Cysylltwch â ni os dymunwch roi cais.
Sut i gwyno
Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym wedi defnyddio eich data.
Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaerllion
SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Sut i gysylltu â ni
Enw: Adran Gwastraff Masnach Cyngor Caerdydd
Cyfeiriad: Depo Ffordd Lamby, Ffordd Lamby, Tredelerch, Caerdydd, CF3 2HP
Rhif Ffôn: 02920717501