Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i gynllunio i roi gwybod i breswylwyr ac ymwelwyr yn ardal Caerdydd sut y caiff eu data personol ei brosesu o Gamerâu a Wisgir ar y Corff (CWCau), a weithredir gan Gyngor Caerdydd. Mae'r hysbysiad hwn yn disgrifio ein diben ar gyfer prosesu a'r sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i gasglu a storio eich data personol.
Mae Cyngor Caerdydd n defnyddio Camerâu a Wisgir ar y Corff mewn tri gwasanaeth:
- Swyddogion Gorfodi Sifil
- Wardeiniaid Canol y Ddinas
- Asiantau Gorfodi
Pa wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chasglu â’n Camerâu a Wisgir ar y Corff?
Mae Camerâu a Wisgir ar y Corff Cyngor Caerdydd yn cadw delweddau o bobl a cherbydau lle mae camera yn cael ei actifadu. Gall hyn gynnwys gwybodaeth adnabyddadwy fel platiau cofrestru cerbydau a delweddau o aelodau'r cyhoedd.
At ba ddiben rydyn ni’n defnyddio Camerâu a Wisgir ar y Corff?
Bydd y Cyngor yn defnyddio unedau Camerâu a Wisgir ar y Corff i’n cynorthwyo i roi tystiolaeth delwedd a sain at y dibenion canlynol:
- Diogelwch i breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr Caerdydd.
- Helpu i atal, rhwystro a chanfod troseddau, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a helpu i greu amgylchedd mwy diogel i'r bobl hynny sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac i ymwelwyr sy'n teithio drwy'r ardal.
- Gwella hyfforddiant a datblygu staff.
- Helpu i ymchwilio i unrhyw gyhuddiad o ymosod neu gam-drin lle mae aelod o staff naill ai'n ddioddefwr honedig neu'n ymosodwr honedig.
Beth yw ein sail gyfreithiol i brosesu eich data personol?
Dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu'r wybodaeth hon yw Erthygl 6 (1):
(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol.
(d) Mae gennym fuddiant allweddol i fywyd.
(e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus
(f) mae gennym fuddiant dilys.
Bydd hyn yn cynnwys materion o ran diogelwch y cyhoedd, ac atal a chanfod troseddau.
Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data personol?
Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â sefydliadau eraill at ddibenion, gan gynnwys atal a chanfod troseddau, cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, neu pan fo hynny'n cael ei ganiatáu'n gyfreithiol. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys, efallai ymhlith eraill:
- Adrannau eraill Cyngor Caerdydd
- Cwmnïau yswiriant
- Llysoedd a thribiwnlysoedd
- Asiantaethau Gorfodi'r Gyfraith, gan gynnwys yr Heddlu
- Yr ombwdsman ac awdurdodau rheoliadol.
Am ba hyd byddwn yn cadw eich data personol?
Cedwir pob recordiad teledu cylch cyfyng am ddim mwy na chyfnod o 31 diwrnod cyn cael ei ddileu'n awtomatig wedi hynny, oni bai y penderfynir ei fod yn berthnasol i ymchwiliad sy’n parhau. Gellir cadw unrhyw recordiadau teledu cylch cyfyng y bernir eu bod yn berthnasol i ymchwiliad sy’n parhau am gyfnod estynedig a chânt eu dileu pan ddaw i ben yn unol ag amserlen cadw corfforaethol y Cyngor.
Sut a phryd mae'r Camerâu Corff yn cael eu defnyddio
Pan fydd y camera’n cael ei droi ymlaen bydd yn dechrau recordio lŵp 30 eiliad treigl o fideo gyda sain. Nid yw'r camera’n cadw’r 30 eiliad o fideo oni bai bod y swyddog yn actifadu'r camera i recordio. Pan fydd y camera’n cael ei actifadu i recordio, bydd y 30 eiliad blaenorol o fideo yn cael ei gynnwys yn y recordiad.
Beth yw eich hawliau?
Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:
- Eich hawl mynediad: mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.
- Eich hawl i gywiro: mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
- Eich hawl i ddileu: mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.
- Eich hawl i gyfyngu ar brosesu: dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
- Eich hawl i wrthwynebu prosesu: mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
- Eich hawl i gludadwyedd data: mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Mae Cyngor Caerdydd yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar
8 Mehefin 2023.
Sut i gysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd Cyngor Caerdydd neu’r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Cysylltu â Diogelu Data
Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
diogeludata@caerdydd.gov.uk
Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol
Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Cyngor Caerdydd wedi mynd i'r afael â'ch pryder yn foddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy
ei wefan neu drwy ffonio 0303 123 1113.