Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

SgwrsFot

BOBi logo
​ 
BOBi yw ein SgwrsFot dwyieithog sydd wedi'i ddyfeisio i ateb eich cwestiynau a'ch helpu i gael mynediad at wasanaethau. Mae BOBi ar gael unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos pan fydd yn gyfleus i chi. 

Ein SgwrsFot yw'r ychwanegiad diweddaraf i ystod o sianeli cyswllt Cyngor Caerdydd, gan gynnig mwy o ddewis i chi a gwell profiad i’r cwsmer. 

Gyda beth all BOBi eich helpu?


Gall BOBi eich helpu gydag amrywiaeth o wahanol wasanaethau megis:

  • Ailgylchu a Gwastraff
  • Y Dreth Gyngor
  • Ysgolion
  • Budd-daliadau a Grantiau
  • Dirwyon
  • Etholiadau

Rydym yn defnyddio eich adborth a'ch awgrymiadau i gyflwyno gwasanaethau newydd i'n SgyrsBot.

Gallwch ofyn cwestiynau fel:

  • Pryd mae fy min neu fy magiau yn cael eu casglu?
  • Pwy yw’r cynghorydd dros fy ardal?
  • Sut rydw i'n talu dirwy parcio?
  • Sut rydw i'n talu fy Nhreth Gyngor?


Drwy ddefnyddio BOBi i ateb eich cwestiynau byddwch yn arbed amser i chi eich hun a gall ein staff canolfan gyswllt ganolbwyntio ar ymholiadau mwy cymhleth a materion sensitif. 

Mae ein SgyrsBot yn dysgu o'r cwestiynau rydych chi'n eu gofyn. Po fwyaf o gwestiynau y mae BOBi yn eu hateb, y mwyaf defnyddiol fydd ein SgyrsBot.





Sut mae defnyddio BOBi?


Bydd BOBi yn ymddangos ar waelod ein tudalennau gwe ar ailgylchu a gwastraff. Cliciwch arno i ddarllen ein telerau ac amodau ac i ddechrau sgwrs. 

Gallwch deipio eich cwestiynau neu glicio ar opsiynau y mae BOBi yn eu darparu yn ystod y sgwrs. Os hoffech ddechrau eto gallwch, teipiwch 'ailgychwyn' ar unrhyw adeg. 

Cliciwch ar y symbol minws i wneud y ffenestr sgwrsio yn llai. Gallwch barhau â'r sgwrs drwy glicio ar BOBi ar unrhyw adeg. 

Bydd hanes eich sgwrs yn aros yn y sgwrs nes byddwch yn cau’r tab.​

Mae eich data’n ddiogel gyda ni 

Rydym yn ymrwymo i gadw’ch gwybodaeth a’ch manylion yn ddiogel ac i gydymffurfio â’r gyfraith. Gweler rhagor o wybodaeth yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.​​
​​​​​​​​
​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd