Navigate Up
Sign In
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area
new cardiff > CYM > Eich Cyngor > Caerdydd a Brexit

Caerdydd a Brexit

Ar 23 Mehefin 2016 dewisodd y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Pleidleisiodd 52% o’r etholwyr dros adael. Yng Nghaerdydd, gwnaeth 40% bleidleisio i adael yn yr UE a 60% i aros.

Ymateb i’r refferendwm


Mewn ymateb, cynhaliodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd​​​​​Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd ​​ gyfarfod arbennig o’i aelodau i ystyried effaith y canlyniad ar Gaerdydd.

Sefydlwyd a chyhoeddwyd gweithgor swyddogion amlasiantaethol, oedd yn cynnwys cynrychiolwyr yr awdurdod lleol, iechyd ac addysg uwch, ‘Brexit – Goblygiadau i Gaerdydd'​​​​​​​Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd .

Nododd yr adroddiad y cyfleoedd a’r risgiau i’r ddinas o ganlyniad i Brexit a chynigiwyd ynddo, i Lywodraeth y DU ac i Lywodraeth Cymru, ffyrdd y gellir cefnogi’r ddinas i baratoi ar gyfer, ac ymateb i’r effaith o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Sut rydym yn paratoi ar gyfer Brexit?


  • Economi y DU a Chyllid Cyhoeddus
  • Dinasyddion a Phreswyliad
  • Cydlyniad Cymunedol
  • Y Farchnad Lafur a Staff y Cyngor
  • Cronfeydd Strwythurol a Chronfa Ffyniant Cyffredin y DU
  • Mewnfuddsoddiad Rhyngwladol a Masnach
  • Tariffau
  • Yr Amgylchedd Rheoleiddiol
  • Cynllunio Parhad Busnes a Chefnogi Dinasyddion Sy'n Agored i Niwed

Ystyriodd yr asesiad yr effaith ar wasanaethau’r Cyngor yn benodol ac nid oedd yn fwriad i gynnig sylwadau ar dueddiadau cenedlaethol a ragwelir. Tynnodd yr asesiad ar waith y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Dinasoedd Craidd a Strategaeth Gyllideb y Cyngor ei hun – i ddarparu cyd-destun economaidd cenedlaethol a lleol.

Mae’r Cyngor yn parhau i sicrhau ymagwedd gydgysylltiedig dinas gyfan ar gyfer cynllunio ar gyfer Brexit, gan weithio drwy Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd​​​​Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd sy’n dod ag arweinyddiaeth gwasanaethau cyhoeddus y ddinas at ei gilydd.

Bydd Caerdydd yn parhau i weithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod ein gwybodaeth leol yn bwydo parodrwydd y genedl ar gyfer Brexit a bod ein cynllunio wrth gefn yn gymorth i’r gwaith sy’n cael ei wneud yn genedlaethol gyda Llywodraeth Cymru ac unrhyw waith ehangach gyda Llywodraeth y DU.

Lobïo

Er mwyn pwysleisio effaith bosibl Brexit ar Gaerdydd a dinasoedd eraill yn y DU, ymunodd Arweinydd y Cyngor ag Arweinwyr Dinasoedd Craidd mewn cyfarfod â Phrif Drafodwr yr UE, Michel Barnier, yn ôl ym mis Chwefror2018, a rhoddodd dystiolaeth hefyd i Bwyllgor Dethol y Senedd ym mis Mawrth 2018.

​Gwybodaeth ar gyfer dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghaerdydd

Ni fydd rheoliadau’r UE ar gyfer Rhyddid i Symud yn berthnasol i’r DU ar ôl Rhagfyr 2020 ac felly mae Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn ofynnol i ddinasyddion yr UE, ynghyd ag aelodau eu teuluoedd, sy’n dymuno aros yn y DU yn gyfreithlon ar ôl y cyfnod pontio, wneud cais am statws preswyl newydd.

I wneud yn siŵr bod gan ddinasyddion yr UE a’u teuluoedd y wybodaeth gyfan sydd ei hangen arnynt, mae’r Cyngor wedi creu tudalen we bwrpasol ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE​.

Cymorth i Fusnesau


Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod busnesau’n deall y cymorth sydd ar gael.

Gyda chanolfannau rhanbarthol ledled Cymru, mae Busnes Cymru yn cynnig cymysgedd o gymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb, yn ogystal â gweithdai hyfforddi a chyngor unigol.

Mae Porth Brexit Busnes Cymru yn gofyn cwestiynau i Fusnesau ar eu parodrwydd ar gyfer Brexit ac yn cyfeirio at adnoddau i gael arweiniad a chymorth.

Cefnogaeth i fusnesau yng Nghaerdydd
​​
English