Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU. Mae'n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddi lleol erbyn Mawrth 2025. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyllid refeniw a chyfalaf.
Gweithiodd Cyngor Caerdydd gydag awdurdodau lleol eraill yn Ne-ddwyrain Cymru i gyflwyno Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru i Lywodraeth y DU. Roedd y cynllun hwn yn amlinellu'r cyfleoedd, yr heriau a'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer De-ddwyrain Cymru ac yng Nghaerdydd. Bydd dull rhanbarthol yn darparu cyfleoedd i rannu dysgu ac arfer gorau a nodi meysydd ar gyfer cydweithio.
Bydd y gronfa yn ein helpu i:
- hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy dyfu'r sector preifat
- lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus
- adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn
- grymuso arweinwyr a chymunedau lleol
Y 3 blaenoriaeth buddsoddi yw:
- Cymuned a lle
- Cefnogi busnesau lleol
- Pobl a sgiliau
Dyrannwyd ychydig o dan £42 miliwn i Gyngor Caerdydd i'w fuddsoddi dros dair blynedd ac mae'n gweithredu rhaglen fuddsoddi.
Rydym wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau a rhanddeiliaid i ddylanwadu ar y Cynllun Buddsoddi a’i lunio ar lefel leol, gan sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau lleol yn cael eu nodi.
Mae dyraniad Caerdydd wedi'i rannu'n £34.5 miliwn o gyllid craidd i'w wario ar y 3 blaenoriaeth buddsoddi. Mae pot ar wahân o £5.7m ar gyfer y rhaglen genedlaethol 'Lluosi' i wella sgiliau rhifedd oedolion. Rhennir gweddill y dyraniad rhwng cyllid rhanbarthol a gweinyddu'r rhaglen ar lefel leol a rhanbarthol.
Beth y gellir ei ariannu?
Disgwylir i brosiectau sy'n gwneud cais am gyllid ddangos:
- y gallu i fodloni meini prawf Llywodraeth y DU ar gyfer y rhaglen a chyflawni canlyniadau o fframwaith y rhaglen
- cyd-fynd ag anghenion lleol fydd yn ategu nid yn dyblygu'r ddarpariaeth bresennol
- ymgysylltu lleol sylweddol â rhanddeiliaid a buddiolwyr posibl
- eu bod yn gallu cyflawni o fewn amserlen fer y rhaglen
- profiad a gallu noddwr y prosiect
- gallu i adnabod a rheoli risgiau'n effeithiol
- gwerth am arian ac na ellir ariannu'r prosiect yn rhywle arall
- y gellir cydymffurfio â rheoliadau rheoli cymhorthdal Llywodraeth y DU
- y bydd y ddarpariaeth yn ystyried dyletswyddau cydraddoldeb, yr iaith Gymraeg ac arfer da amgylcheddol
- cyfraniad at ddiwallu anghenion strategol yr ardal fel y nodir yng Nghynllun y Cyngor, Cynllun Llesiant a strategaethau perthnasol eraill
Dysgu mwy am
Cynllun Corfforaethol Cyngor Caerdydd: Cryfach, Tecach, Gwyrddach.
Gallwch wneud cais am gyllid ar gyfer gwariant cyfalaf a refeniw. Mae gwariant cyfalaf yn cyfeirio at gyllid a ddefnyddir i gael, adeiladu neu uwchraddio asedau ffisegol. Mae gwariant refeniw yn cyfeirio at gostau sefydliadol parhaus sydd eu hangen i redeg gweithgareddau'r prosiect a nodir mewn cais cymeradwy. Er enghraifft:
- costau staff (gan gynnwys cyflog, yswiriant gwladol, a phensiwn)
- costau teithio a chynhaliaeth sy'n gysylltiedig â phrosiect
- costau deunyddiau
- costau marchnata a chyhoeddusrwydd
- costau cyfranogwr hyfforddi e.e. costau teithio, gofal plant
Bydd angen i brosiectau sicrhau eu bod yn gweithio gydag ymyriadau, allbynnau a chanlyniadau CFfG ar gyfer Cymru:
Sut i gymryd rhan
Rydym wedi creu detholiad o grantiau i sicrhau bod cyllid ar gael i gymunedau a busnesau lleol.
Dysgwch
sut i gymryd rhan.

