Roedd yr Alwad Agored yn rhoi cymorth ariannol drwy gynllun grant. Sefydlwyd y cynllun grant i gefnogi buddsoddiadau cyfalaf a refeniw mewn unrhyw faes a allai dderbyn arian gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae’r gronfa wedi cael ei defnyddio i helpu i gryfhau cymunedau, meithrin balchder mewn lleoedd, a sicrhau budd economaidd.
Roedd y grantiau ar gael i amrywiaeth o sectorau a sefydliadau addysgol. Roeddent yn gallu gwneud cais am isafswm o £10,000 ac uchafswm o £250,000.
Caeodd y cynllun ddydd Gwener 18 Awst 2023.