Mae’r
Canllaw Dylunio i Fyw (13mb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn egluro sut bydd datblygiadau newydd yn helpu Caerdydd i fod y brifddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop.
Mae’n egluro uchelgais y Cyngor ar gyfer dylunio trefol a phensaernïaeth sy’n creu ymdeimlad o le ac a fydd yn cael ei ddefnyddio gyda datblygiadau strategol ledled y ddinas.
Mae’r canllaw yn cynnwys deg ‘egwyddor cynllunio allweddol’ fydd â’r nod o greu cymdogaethau da i fyw ynddyn nhw, drwy gynllunio a dylunio da.
Uchelgais y Cyngor yw bod datblygiadau newydd ymhlith y gorau yn y DU ac Ewrop o ran dangosyddion ffordd dda o fyw, megis:
- ansawdd bywyd,
- mannau gwyrdd a chyhoeddus,
- trafnidiaeth a chynaliadwyedd.
Mae Archwiliad Trefol y Comisiwn Ewropeaidd yn cefnogi'r uchelgais. Barnodd yn ddiweddar fod Caerdydd yn cymharu’n dda iawn â dinasoedd tebyg yn Ewrop.
Bwriedir y canllaw hwn ar gyfer datblygiadau mawr, pan fo cymunedau newydd yn cael eu creu ac a fydd yn effeithio ar Gaerdydd a’r Dinas-Ranbarth.
Gall datblygwyr ddefnyddio’r canllaw hwn fel man cychwyn i lywio cynigion wrth drafod gyda’r Cyngor, wrth i ni weithio gyda’n gilydd i wireddu’r weledigaeth o Gaerdydd fel y ddinas orau i fyw ynddi yn Ewrop.