Cylch gwaith ‘Caerdydd Ddwyieithog’ yw cymryd rôl flaenllaw wrth ddatblygu Caerdydd gwbl ddwyieithog lle gall dinasyddion a staff Cyngor Dinas Caerdydd gael gafael ar wasanaethau a chymorth yn y ddwy iaith yn gyfartal drwy wella gwaith partneriaeth.
 
Mae tîm Caerdydd Ddwyieithog yn cynorthwyo’r cyngor i gydymffurfio â’i ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg, ac yn cynnwys gwasanaeth cyfieithu llawn. Fel rhan o ddull ‘cydweithredol y cyngor', bydd Caerdydd Ddwyieithog yn ymrwymo i rôl gynghorol ar gyfer sefydliadau eraill, tra'n parhau i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth bellach o’r iaith Gymraeg ar draws y ddinas drwy drefniadau cydweithio gwell sydd, yn eu tro, yn rhoi llai o bwysau ar gostau.
 
Mae’r dull arloesol newydd hwn yn ymwneud â chwalu rhwystrau rhwng yr iaith Gymraeg a Saesneg, hyrwyddo dwyieithrwydd fel rhywbeth hollol naturiol ac ymfalchïo yn y ddwy iaith swyddogol yma yng Nghaerdydd er mwyn sicrhau bod ein gweledigaeth o Gaerdydd gynyddol ddwyieithog yn cael ei gwireddu.


Caerdydd Ddwyieithog: Strategaeth 5 Mlynedd yr Iaith Gymraeg 2017-2022​

Ein gweledigaeth yw datblygu Caerdydd gwbl ddwyieithog. Caerdydd lle gall ein dinasyddion fyw, gweithio a chwarae yn ogystal â manteisio ar wasanaethau a chymorth yn Gymraeg neu Saesneg yn yr un modd. Prifddinas lle mae dwyieithrwydd yn cael ei hyrwyddo fel rhywbeth cwbl naturiol, a lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei diogelu a’i meithrin i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau a'i defnyddio.

Un o ofynion statudol safonau newydd yr iaith Gymraeg yw creu a chyhoeddi strategaeth pum mlynedd fydd yn gosod allan sut y byddwn yn hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y strategaeth yn yr hydref 2016, a chymeradwywyd y strategaeth hon gan y Cyngor ym mis Mawrth 2017. Mae’r strategaeth yn cynnwys targed i gynyddu nifer a chanran y siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yng Nghaerdydd i sicrhau fod Caerdydd chwarae ei rhan yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae hon yn strategaeth i’r ddinas gyfan, nid i un sefydliad yn unig. Bydd cyflawni’r strategaeth felly yn dibynnu ar weithio mewn partneriaeth: rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat ac addysg ac, yn bwysicach na dim, gyda phobl Caerdydd. 

 
 

Safonau'r Gymraeg

 
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn disodli Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac fel rhan o'r ddeddfwriaeth newydd, yng Nghymru mae gan yr iaith Gymraeg statws cyfreithiol cyfartal â’r Saesneg ac felly ni all yr iaith Gymraeg cael ei thrin yn llai ffafriol. Nid oes rhaid i gyrff cyhoeddus mwyach ddatblygu a gweithredu cynlluniau iaith Gymraeg, ond yn hytrach rhaid iddynt gydymffurfio â set o Safonau’r Gymraeg cenedlaethol.

Cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg Hysbysiadau Cydymffurfio i awdurdodau lleol ar 30 Medi 2015. Mae'r ddogfen hon yn rhestru pa rai o'r 176 Safon (fel y rhestrir yn llawn yn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015) y mae’n rhaid i sefydliad gydymffurfio â hwy, ynghyd ag unrhyw eithriadau a’r dyddiadau gweithredu.

Mae dyletswydd statudol ar Gyngor Dinas Caerdydd i gydymffurfio â safonau a restrir ynghyd â’r dyddiadau cydymffurfio yn yr “Hysbysiad cydymffurfio - Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011” a gyflwynwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 30 Medi 2015.

Disgwylir i’r Cyngor gydymffurfio â’r rhan fwyaf o’r safonau erbyn 30 Mawrth 2016.


 

Adroddiad Monitro Blynyddol

Mae Safonau’r Gymraeg yn nodi bod yn rhaid i’r Cyngor greu adroddiad blynyddol, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r ffordd y mae’r Cyngor wedi cydymffurfio â’r safonau darparu gwasanaethau, safonau creu polisi a’r safonau gweithredol a gyhoeddir yn yr ‘Hysbysiad Cydymffurfio Cyngor Dinas Caerdydd – Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011’.


Safonau’r Gymraeg: Adroddiad Blynyddol 2015–16 (245kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Atodaiadau i'r adroddiad Safonau’r Gymraeg 2015–16 (1.3MB PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

 
 
 

Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd

 
Mae ystadegau’r cyfrifiad diwethaf sydd ar gael yn nodi:
 
  • Bod gan 16.2% o boblogaeth Caerdydd un neu fwy o sgiliau yn yr iaith Gymraeg (darllen, ysgrifennu a/neu ddeall Cymraeg).
  • Bod 36,735 neu 11.1% o boblogaeth y sir yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
  • Ar gyfer y grŵp oedran 5-15 oed, sy’n cyfateb i'r band oedran ysgol statudol, mae cyfran trigolion Caerdydd sy’n gallu siarad Cymraeg wedi codi o 7.5% ym 1981 i 12.7% ym 1991 a 24.5% yn 2001. Erbyn 2011, roedd y ffigur hwn wedi codi i 26.7%.

 

Mae’r cynnydd ers 1991 yn nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg (yng Nghymru yn ei chyfanrwydd) yn gysylltiedig i raddau helaeth â phlant sy’n cael eu haddysgu yn yr iaith yn yr ysgol.

 

Mae twf o'r fath yn adlewyrchu dwy duedd unigol ac ar y cyd. Yn gyntaf, yn y chwarter canrif diwethaf mae nifer fawr o bobl wedi mudo i Gaerdydd o gadarnleoedd Cymraeg yn sgîl sefydlu gwasanaethau cyfryngau a gweinyddiaeth gyhoeddus Gymraeg yn y brifddinas.

 

Yn ail, mae’n adlewyrchu arferion a pholisïau ymrwymedig tuag at addysg cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd.

 

Ar hyn o bryd mae tair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y ddinas, pymtheg o ysgolion cynradd a dwy uned cyfrwng Cymraeg. Mae tua 4700 o ddisgyblion yn mynychu ar lefel gynradd a thros 2350 ar lefel uwchradd. 

 
 
029 2087 2527
​​​​​​