Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth yw’r Cyflog Byw?

Mae cyflogwyr yn talu’r Cyflog Byw yn wirfoddol. Mae’n gyfradd yr awr a bennir yn annibynnol ac a ddiwedderir yn flynyddol.  Mae’n cael ei gyfrifo yn unol â chost sylfaenol byw yn y DU. 

Nod y Cyflog Byw yw na ddylai unrhyw un orfod gweithio am lai o arian nag y gall fyw arno. 
Bwriad achrediad Sefydliad y Cyflog Byw yw cydnabod urddas gwaith a’r pwysigrwydd i unigolion ennill cyflog sy’n cynnig safon dderbyniol o fyw.  

Gall gael effaith gadarnhaol ar gynhyrchedd a throsiant staff felly nid yn unig y mae’n gwneud synnwyr busnes da ond mae hefyd yn cynnig manteision cymdeithasol ac economaidd ehangach. 

© 2022 Cyngor Caerdydd