Bob blwyddyn rydym yn cysylltu â holl eiddo preswyl Caerdydd i gadarnhau'r wybodaeth ar y Gofrestr Etholiadol.
Gelwir y broses hon yn "ganfasiad blynyddol". Mae'n ofyniad cyfreithiol cadw'r Gofrestr Etholiadol yn gyflawn ac yn gywir, ac mae'r Comisiwn Etholiadol yn monitro'r broses.
Rydym yn cyhoeddi'r Gofrestr Etholiadol wedi'i diweddaru bob mis Rhagfyr.
Byddwch yn derbyn e-bost neu lythyr gennym ym mis Gorffennaf. Cwblhewch y ffurflen a rhowch wybod i ni os ydych:
- yn symud cartref neu i lety myfyrwyr,
- yn newid eich enw,
- am newid y ffordd rydych chi'n pleidleisio,
- am newid eich dewis Cofrestr Agored.
Byddwch yn derbyn nodyn atgoffa os oes angen i chi ymateb i'r e-bost neu lythyr ond heb wneud hynny.
Os na fyddwn yn clywed oddi wrthych, byddwn yn ymweld â chi er mwyn diweddaru eich gwybodaeth.
Rhoi gwybod am newid gwybodaeth