Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Mathau o etholiad

Mae 4 math o etholiad yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd. ​


Y Llywodraeth Leol yng Nghaerdydd yw Cyngor Dinas Caerdydd, neu Gyngor Caerdydd.  Arweinir Cyngor Caerdydd gan Gynghorwyr, sy'n cael eu hethol yn yr Etholiadau Llywodraeth Leol. Maen nhw'n cael eu hadnabod fel Aelodau Cyngor.

Mae Aelodau Cyngor yn gweithredu ar ran pobl Caerdydd, gan wneud penderfyniadau am wasanaethau lleol, cyllidebau a lefel gyffredinol gwasanaethau'r cyngor.

Etholiadau Llywodraeth Leol


Cynhelir etholiadau Llywodraeth Leol bob 5 mlynedd yng Nghaerdydd. 

Mae etholiadau Llywodraeth Leol yn cael eu cynnal fel bod modd i bobl Caerdydd bleidleisio dros bwy fydd yn cael eu hethol yn Aelodau Cyngor. 

Mae gan Gyngor Gaerdydd 79 Aelod Cyngor. Maen nhw'n cael eu hethol i gynrychioli'r gwahanol ardaloedd neu Wardiau Etholiadol yng Nghaerdydd. 

Mae Caerdydd wedi ei rhannu'n 28 o Wardiau Etholiadol. Felly, bydd gan bob ward fwy nag un cynghorydd yn eu cynrychioli. 

Pan fyddwch chi’n pleidleisio mewn etholiad Llywodraeth Leol rydych chi’n dewis pa ymgeisydd rydych chi am ei weld yn cynrychioli eich ward etholiadol yng Nghyngor Caerdydd. Bydd yr ymgeiswyr sy’n derbyn y nifer mwyaf o bleidleisiau yn cael eu hethol yn Aelodau Cyngor, a byddan nhw’n cynrychioli pawb yn eich ward etholiadol. 

Mae gan rai ardaloedd yng Nghaerdydd Gyngor Cymuned hefyd. Cynghorwyr Cymuned sy'n arwain Cynghorau Cymuned. Nhw sy’n gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau ac am ddarparu a chadw amwynderau lleol. Mae Aelodau Cyngor Cymuned hefyd yn cael eu hethol mewn Etholiad Llywodraeth Leol. 

Os ydych chi’n byw mewn ardal yng Nghaerdydd â chyngor cymuned, bydd gennych chi ddau bapur pleidleisio wrth fwrw pleidlais:

  • un i bleidleisio am Gynghorydd i gynrychioli eich ward etholiadol yng Nghyngor Caerdydd
  • un i bleidleisio dros Gynghorydd Cymuned i gynrychioli eich ardal yn eich Cyngor Cymuned 


Pam mae Etholiadau Llywodraeth Leol yn Bwysig?


Y Blaid Wleidyddol â’r nifer mwyaf o Aelodau Cyngor fydd yn ffurfio Cabinet y Cyngor a nhw fydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau a pholisïau am wasanaethau lleol, cyllidebau, a lefel gyffredinol gwasanaethau'r cyngor. Dyma wasanaethau sy'n cael effaith uniongyrchol ar bobl Caerdydd, fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Ailgylchu a Chasglu Gwastraff.

Y Senedd, neu Senedd Cymru yn ffurfiol, yw’r Senedd ar gyfer Cymru. Mae'r Senedd ar wahân i Lywodraeth Cymru. Mae gan y Senedd 'bwerau datganoledig', sy'n golygu bod ganddi bwerau i ddeddfu dros faterion a oedd wedi eu cadw i Senedd y DU yn San Steffan yn y gorffennol.

Arweinir y Senedd gan Aelodau sy'n cael eu hethol yn Etholiadau'r Senedd, fe'u gelwir yn 'Aelodau o'r Senedd'.  

Mae Aelodau o'r Senedd yn gweithredu ar ran pobl Cymru. Maen nhw'n gwirio gwaith Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod cynlluniau ar gyfer gwario arian neu gynnal gwasanaethau yn cael eu cyflawni yn y ffordd orau bosib i Gymru. 

Etholiadau’r Senedd


Cynhelir etholiadau'r Senedd bob 5 mlynedd. 

Mae etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal fel y gall pobl Cymru bleidleisio dros bwy gaiff eu hethol yn Aelodau o'r Senedd. 

Mae canlyniadau etholiadau'r Senedd hefyd yn cael eu defnyddio i benderfynu pwy fydd yn ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru. 

Ar gyfer Etholiadau'r Senedd, mae Cymru wedi'i rhannu mewn dwy ffordd wahanol:

  • 40 etholaeth 
  • 5 rhanbarth 



Mae 60 Aelod o’r Senedd. Mae 40 Aelod o'r Senedd wedi eu hethol i gynrychioli 40 etholaeth Cymru. Bydd gan bob etholaeth 1 Aelod o’r Senedd i'w chynrychioli.  

Mae'r 20 Aelod Senedd sy’n weddill yn cael eu hethol i gynrychioli'r 5 rhanbarth. Bydd gan bob rhanbarth 4 Aelod o’r Senedd i’w chynrychioli.  

Pan fyddwch chi’n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd, bydd gennych chi ddau bapur pleidleisio:

  • Pleidlais dros ymgeisydd i gynrychioli’ch etholaeth 
  • Pleidlais dros ymgeisydd i gynrychioli’ch rhanbarth 


Gall y blaid wleidyddol sy'n ennill 30 neu fwy o seddi yn y Senedd ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru. 

Pam mae etholiadau'r Senedd yn bwysig?


Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu sut mae Cymru yn cael ei rhedeg. Nhw sy’n dewis ar beth y caiff arian cyhoeddus ei wario ac sy’n penderfynu sut i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, fel iechyd ac addysg.

Mae'r Senedd yn edrych yn fanwl ar waith Llywodraeth Cymru ac yn holi ei Gweinidogion. Mae'n archwilio cynlluniau'r llywodraeth ac yn awgrymu newidiadau. Mae Aelodau o'r Senedd hefyd yn gallu codi materion yn y Senedd sy'n bwysig i chi.​
Mae Senedd y DU ar wahân i Lywodraeth y DU ac mae'n cynnwys tair elfen ganolog:

  • Tŷ'r Cyffredin
  • Tŷ'r Arglwyddi
  • Y Frenhiniaeth


Mae prif fusnes y Senedd yn San Steffan yn digwydd yn y ddau Dŷ. 

Bwriad y Senedd hwn yw cynrychioli buddiannau pobl y DU a sicrhau bod y buddiannau hyn yn cael eu hystyried gan Lywodraeth y DU. 


Etholiad Seneddol y DU


Cynhelir Etholiadau Seneddol y DU o leiaf unwaith bob 5 mlynedd ac maent yn cael eu hadnabod yn fwy cyffredin fel Etholiadau Cyffredinol y DU. 

Pan fyddwch chi’n pleidleisio mewn Etholiad Cyffredinol, rydych chi’n dewis pa ymgeisydd rydych chi’n ei ddymuno i gynrychioli’ch etholaeth yn Nhŷ’r Cyffredin. Bydd yr Ymgeisydd â’r nifer mwyaf o bleidleisiau yn eich etholaeth yn cael ei ethol yn Aelod Seneddol neu AS ar gyfer eich etholaeth ac yn eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin. 

Mae gan Dŷ'r Arglwyddi aelodau sy'n cael eu penodi gan amlaf am oes yn hytrach na'u hethol. Maen nhw’n aml wedi eu dewis oherwydd eu cyflawniadau a'u profiad. 

Mae'r blaid wleidyddol â'r nifer mwyaf o AS etholedig yn gallu ffurfio Llywodraeth y DU. Felly, mae eich pleidlais mewn etholiad cyffredinol yn chwarae rhan wrth benderfynu pwy sy'n arwain y wlad.

Pam mae Etholiadau Seneddol y DU yn bwysig?


Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am benderfynu sut mae’r DU yn cael ei rhedeg. Nhw sy'n gosod trethi’r DU ac yn creu cyfreithiau a pholisi ar faterion a gedwir yn ôl fel yr heddlu, amddiffyn, perthnasoedd rhyngwladol, budd-daliadau lles a chyflenwadau ynni’r DU. 

Er bod llawer o bwerau Llywodraeth y DU wedi eu dirprwyo i'r 'sefydliadau datganoledig' yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon (yng Nghymru y Senedd yw hon), dim ond Llywodraeth y DU sy'n cael siarad ar ran y DU a chynrychioli pobl y DU dramor.  

Gwaith y Senedd yw edrych yn fanwl ar gynlluniau Llywodraeth y DU a monitro'r ffordd maen nhw'n cynnal pethau.

Felly, pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad cyffredinol yn y DU rydych chi'n dewis pwy rydych chi'n meddwl ddylai weithio ar eich rhan i geisio gwneud yn siŵr bod penderfyniadau Llywodraeth y DU yn:

  • agored a thryloyw – drwy holi gweinidogion a gofyn am wybodaeth
  • ymarferol ac effeithlon – drwy archwilio cynigion newydd yn fanwl ac awgrymu gwelliannau, gwirio sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario ac olrhain sut mae deddfau newydd yn gweithio’n ymarferol
  • teg ac anwahaniaethol – drwy wirio eu bod yn cydymffurfio â chyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol a thrwy siarad ar ran unigolion sydd wedi eu heffeithio




Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu yw llais y bobl ac sy'n dwyn yr heddlu i gyfrif. 

Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu


Mae Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu​ yn cael eu cynnal bob 4 blynedd. 

Wrth sôn am etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu, mae 41 o ardaloedd ledled Cymru a Lloegr lle mae 1 Comisiynydd yn cael ei ethol. Yng Nghaerdydd gallwch bleidleisio dros bwy sy'n eich cynrychioli fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.
 

Pam mae Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn bwysig?


Nod Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yw dileu trosedd a sicrhau gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon o fewn ardal eu heddlu. 

Felly, pan fyddwch yn pleidleisio mewn etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu rydych chi'n cael dewis pwy yn eich barn chi ddylai ddwyn y Prif Gwnstabliaid a'r heddlu i gyfrif yn eich ardal chi. 

 

© 2022 Cyngor Caerdydd