Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Concrid Awyrog Awtoclafiedig Dur (CAAD)

​​ Mae'r diweddariad hwn, ar 12 Medi 2023, yn trafod gwaith parhaus y Cyngor gyda'n hysgolion, Neuadd Dewi Sant, a'r diweddaraf ar dai cyngor a'r ystâd ehangach.

Darllen​wch am y penderfyniad i ​gau Neuadd Dewi Sant dros dro​
​​​​​

Rydym wedi cwblhau arolygiadau mewn ysgolion ar draws y ddinas ac yn hapus nad oes yr un o'r ysgolion yn cynnwys Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (RAAC).​

Nid ydym yn ymwybodol o'r defnydd o CAAD yn unrhyw un o'n cartrefi.

Rydym yn cynnal prosiectau adnewyddu yn rheolaidd ar ein heiddo, gan gynnwys arolygon manwl lle bo hynny'n briodol, ac nid yw'r defnydd o'r deunydd wedi'i nodi.

Rydym yn adolygu ein cofnodion ac yn penderfynu ar y camau nesaf. Pan fyddwn yn ystyried bod angen gwiriadau pellach i roi sicrwydd, bydd y rhain yn cael eu cynnal cyn gynted â phosibl.
Mae tîm arolygu'r Cyngor yn llunio amserlen arolygu ar gyfer pob adeilad arall sy'n eiddo i Gyngor Caerdydd, wedi'i raglennu ar sail blaenoriaeth.

Mae gwiriadau sydd eisoes wedi'u cwblhau ar Neuadd y Ddinas a Neuadd y Sir wedi cadarnhau nad yw'r adeiladau hyn yn cynnwys CAAD.
 
© 2022 Cyngor Caerdydd