Daeth ymgynghoriad cyhoeddus Cyllideb 2023 i 2024 i ben 29 Ionawr 2023
Rydym yn ymdrechu i adeiladu Caerdydd Gryfach, Decach a Gwyrddach.
Dinas gryfach, gydag economi yn cynnig swyddi sy'n talu'n dda, system addysg sy'n caniatáu i bobl ifanc gyrraedd eu potensial, a lle mae tai da, fforddiadwy ar gael i bawb mewn cymunedau diogel.
Dinas decach, lle gall pawb, beth bynnag fo'u cefndiroedd, fwynhau’r cyfleoedd a’r manteision o fyw yng Nghaerdydd. Lle bydd y rhai sy'n dioddef effeithiau tlodi yn cael cymorth a lle mae diwrnod teg o waith yn derbyn diwrnod teg o gyflog.
Dinas wyrddach, sy’n ymateb i'r argyfwng hinsawdd, yn hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn sicrhau bod mannau agored o ansawdd uchel ar gael i bawb. Bydd hyn i gyd o fewn cyrraedd drwy opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy cyfleus, diogel a fforddiadwy.
Ond, fel awdurdodau lleol ledled y DU, mae Caerdydd yn wynebu cyfres o bwysau eithriadol unwaith eto, sy'n cael eu gyrru gan yr argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni ac effaith barhaus Covid-19.
Mae hyn yn golygu bod popeth rydyn ni'n ei wneud, pob gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig, nawr yn costio mwy i'w ddarparu i’n trigolion. Y flwyddyn nesaf, 2023/24, rydym yn amcangyfrif y bydd darparu'r gwasanaethau dydd-i-ddydd a dderbyniwyd gennych eleni - gan gynnwys ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, casglu gwastraff a pharciau - yn costio £75m ychwanegol i ni oherwydd cynnydd mewn prisiau, chwyddiant a phwysau yn y galw.
Er gwaethaf cynnydd mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae hynny'n dal i'n gadael ni gyda £23m i’w ganfod drwy gynilion ac effeithlonrwydd, taliadau am wasanaethau neu drwy gwtogi neu dorri gwasanaethau. Mae'n parhau i fod yn fwlch sylweddol yn y gyllideb ac rydym yn gwybod, mewn cyfnod anodd, y bydd nifer o drigolion y ddinas yn troi at y Cyngor am gefnogaeth. Ni fyddwn yn eu siomi.
Dyna pam mae'r cynigion arbed rydyn ni'n eu cyflwyno yn blaenoriaethu cefnogaeth i'r rhai mwyaf agored i niwed, yn amddiffyn gwasanaethau rheng flaen ac yn sicrhau cyllid teg ar gyfer addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Yn wir, wrth i ni barhau i flaenoriaethu addysg yng Nghaerdydd rydym yn cynnig, fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, dwf o £25 miliwn mewn cyllid ysgolion.
Er mwyn caniatáu i ni wneud hyn rydym wedi gorfod cyflawni lefel sylweddol o arbedion drwy effeithlonrwydd cefn swyddfa. Mae hyn wedi cynnwys gyrru costau i lawr drwy leihau'r defnydd o'n hadeiladau a gwneud gwell defnydd o dechnoleg.
Ond nid yw hyn ar ei ben ei hun yn ddigon i gau'r bwlch o £23m yn y gyllideb ac felly mae'r Cyngor yn ystyried nifer o newidiadau i’n gwasanaethau rheng flaen i gydbwyso'r gyllideb yn 2023 i 2024.
Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd, Cyngor Caerdydd
Mae'r gost o ddarparu gwasanaethau wedi cynyddu gan bron £75m, sy'n golygu bod y Cyngor yn wynebu bwlch ariannu rhagamcanol o dros £23 miliwn. Dyma'r bwlch rhwng y gost ragamcanol am ddarparu ein gwasanaethau a swm yr adnoddau sydd ar gael. Er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gefnogi cynnydd i gyllideb y Cyngor, nid yw’n ddigon i dalu am y gost o ddarparu gwasanaethau, gan adael bwlch yn y gyllideb y mae angen ei gau.
Mae nifer o resymau pam mae’r Cyngor yn rhagfynegi bwlch mor fawr yn y gyllideb.
- Galw Cynyddol am ein Gwasanaethau: Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu, mae mwy a mwy o bobl yn troi at y Cyngor am gymorth, sy'n golygu bod y galw am ein gwasanaethau yn cynyddu. Gwyddwn, er enghraifft, fod nifer y bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol bron ddwywaith y lefel cyn y pandemig, gyda nifer y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau cynghori yn dyblu ers mis Ebrill y llynedd. Mae gwaith achos y gwasanaeth cymdeithasol wedi cynyddu'n sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf tra bod llwythi achos Prydau Ysgol Am Ddim wedi cynyddu'n sylweddol. Gyda mwy o bobl yn ceisio cael mynediad i wasanaethau'r Cyngor, mae cost darparu yn codi.
- Pwysau Chwyddiant: Gyda chwyddiant bellach dros 11%, mae costau darparu gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi yn ein hadeiladau a'n seilwaith i gyd yn codi.
- Ynni: Mae prisiau ynni cynyddol yn golygu bod y Cyngor yn wynebu talu £13m yn ychwanegol y flwyddyn nesaf i gynhesu ein hadeiladau a goleuo ein strydoedd.
- Cyflog: Rydyn ni'n credu y dylai gweithwyr y sector cyhoeddus – sy'n darparu gwasanaethau hanfodol ledled y ddinas – gael eu talu'n deg. Mae dyfarniadau cyflog uwch nag a gyllidebwyd ar eu cyfer i ddechrau wrthi’n cael eu cytuno, er eu bod yn dal i fod yn sylweddol is na’r gyfradd chwyddiant ar gyfer nifer o staff y Cyngor, ac yn is na'r codiadau cyflog sy'n cael eu gweld yn y sector preifat.
- Bwyd, Tanwydd a Thrafnidiaeth: Mae cost prynu bwyd, tanwydd a thrafnidiaeth - i ddarparu prydau ysgol a thrafnidiaeth ysgol - i gyd yn codi
- Gwaddol Covid: Mae effaith barhaol Covid yn parhau i gael ei deimlo, gyda rhai gwasanaethau yn profi colled incwm barhaus tra bod eraill yn wynebu mwy o heriau a phroblemau mwy cymhleth wrth iddyn nhw gefnogi adferiad.
Er bod cymorth Llywodraeth Cymru i Gyngor Caerdydd i gynyddu gan 9% y flwyddyn nesaf, nid yw’n ddigon i dalu'r costau ychwanegol y mae'r Cyngor bellach yn eu hwynebu.
Bydd angen cau'r bwlch yn y gyllideb trwy gyfuniad o:
- Arbedion Effeithlonrwydd a Chynigion Newid Gwasanaeth: Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac felly'n ceisio cynhyrchu cymaint o arbedion â phosib trwy effeithlonrwydd cefn swyddfa. Mae hyn yn golygu lleihau costau rhedeg ein hadeiladau, lleihau faint o le swyddfa sydd ei angen arnom, a defnyddio technoleg newydd lle gall arbed arian i ni. Mae maint yr heriau ariannol hefyd yn golygu bod y Cyngor wedi bod yn ystyried gostyngiad rheoledig yn nifer y staff sy'n cael eu cyflogi, trwy ddiswyddo gwirfoddol, er mwyn cynhyrchu arbedion a lleihau diswyddiadau gorfodol cymaint â phosibl.
Gyda'i gilydd, yr arbedion effeithlonrwydd hyn fydd yn gwneud y cyfraniad mwyaf at gau'r bwlch yn y gyllideb. Yn anffodus, ni fyddant yn ddigon, ac efallai y bydd angen rhai newidiadau i wasanaethau er mwyn cydbwyso'r llyfrau. Dyna pam rydyn ni eisiau gwybod beth mae pobl Caerdydd yn ei feddwl am rai o'r newidiadau posibl y gallen ni eu gwneud i arbed arian.
- Treth Gyngor: Nid yw’r Dreth Gyngor ond yn cyfrif am 27% o gyllideb y Cyngor, ac mae’r gweddill yn dod gan Lywodraeth Cymru. Mae pob cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor ond yn cynhyrchu tua £1.6m, ac felly nid yw cau'r bwlch yn y gyllideb trwy gynyddu treth yn unig yn realistig, yn enwedig mewn argyfwng costau byw.
Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn:Rhaid i'r Cyngor fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio'i gronfeydd ariannol; dim ond swm cyfyngedig sydd ar gael ac unwaith maen nhw wedi mynd, maen nhw wedi mynd. Mae’r mwyafrif o gronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi'u clustnodi at ddibenion penodol ac felly maent eisoes wedi ymrwymo i gefnogi darparu gwasanaethau, er enghraifft ariannu mentrau cymunedol untro a chefnogi Gwasanaethau Atal Digartrefedd. Mae'r Cyngor yn cynnal lefel o Falans Cyffredinol gwerth £14.2m i dalu am gostau annisgwyl ac mae hyn yn cyfateb i lai na 2% o gyllideb net gyffredinol y Cyngor.
Mae dyletswydd gyfreithiol ar holl gynghorau Cymru a Lloegr i ddarparu cyllideb gytbwys i ariannu'r gwaith o redeg ein gwasanaethau.
Mae cynghorau ledled y DU yn wynebu pwysau ariannol enfawr yn sgil effaith barhaol Covid-19 a'r argyfyngau costau byw ac ynni. Nid yw Cyngor Caerdydd yn eithriad ac mae'n wynebu cynnydd o dros £75m mewn costau.
Mae'r cynnydd costau hwn a'r pwysau cyflenwi mor fawr ag unrhyw beth y mae'r Cyngor wedi ei wynebu dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i wasanaethau cyhoeddus barhau i nodi pob cyfle posibl i gyflawni effeithlonrwydd, lleihau costau ac, mewn rhai achosion, leihau lefel y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu hyd yn oed.
Pan wnaethom ymgynghori ar eich blaenoriaethau cyflenwi gwasanaeth yn gynharach eleni, nodoch yn glir mai eich tair blaenoriaeth uchaf oedd:
- Ysgolion ac Addysg gan gynnwys Gwasanaethau Ieuenctid.
- Cynorthwyo plant a theuluoedd sy’n agored i niwed.
- Cefnogi oedolion a phobl hŷn sy'n agored i niwed.
Dyna pam y bydd cynigion y gyllideb yn cynnwys diogelu ysgolion, addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'n golygu, fodd bynnag, y bydd angen dod o hyd i fwy o arbedion mewn mannau eraill yng nghyllideb y Cyngor.
Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i arbed arian trwy weithio'n fwy effeithlon a pheidio ag effeithio ar wasanaethau rheng flaen ac rydym wedi nodi arbedion effeithlonrwydd swyddfa gefn sylweddol ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond nid yw hyn yn ddigon i gau'r bwlch yn y gyllideb ac felly mae'r Cyngor yn ystyried nifer o opsiynau i gydbwyso'r gyllideb yn 2023 i 2024.
Hoffem wybod eich barn chi ar y rhain.
Daeth ymgynghoriad cyhoeddus Cyllideb 2023 i 2024 i ben 29 Ionawr 2023
Ym mis Ebrill 2019 cyflwynodd Cyngor Caerdydd bremiwm o 50% ar eiddo heb eu meddiannu am gyfnod hir. Y rheswm am hyn yw ceisio annog perchnogion tai i ddod ag eiddo yn ôl i feddiannaeth.
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn ystyried a ddylid cynyddu'r premiwm presennol i 100% o 1 Ebrill 2023 a hefyd rhoi rhybudd i gyflwyno premiwm newydd i eiddo gwag sydd wedi'u dodrefnu nad ydynt yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa. Cyn gwneud penderfyniad terfynol mae'r Cyngor yn ymgynghori am ei gynigion a byddai'n croesawu sylwadau gan bartïon â diddordeb.
Daeth ymgynghoriad cyhoeddus Premiwm y Dreth Gyngor i ben 29 Ionawr 2023
Archif y Gyllideb
Mae dogfennau blaenorol y gyllideb ar gael drwy weld cyfarfod y cyngor llawn ar Modern.gov