Mae’r rhan fwyaf o strydoedd Caerdydd yn ‘strydoedd gwaharddedig’ o ran masnachu ar y stryd. Mae'n drosedd i fasnachu ar y stryd neu o fewn 35 metr i stryd waharddedig.
Rhestr o strydoedd dynodedig lle gwaherddir masnachu ar y stryd (263kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Mae nifer fach o safleoedd trwyddedig hanesyddol yng Nghaerdydd lle caniateir masnachu ar stryd. Fodd bynnag mae’r cyngor yn benderfynol nad yw am ddyfarnu unrhyw drwyddedau newydd i fasnachu ar y stryd.
Mae caniatâd i fasnachu ar y stryd yn cynnwys mathau mwy anfynych o fasnachu ac fe’u cyhoeddir dim ond ar gyfer digwyddiadau mawr yn y ddinas ar safleoedd penodol.
Mae’n rhaid i bawb sy'n ymgeisio am ganiatâd i fasnachu ar y stryd gael eu harchwilio gan adran diogelwch bwyd a rheoli gwastraff y cyngor.
Am fwy o wybodaeth, gweler y
polisi trwyddedu masnachu ar y stryd (66kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Sut i wneud cais
I gael rhagor o wybodaeth o ran sut i gyflwyno cais am ganiatâd i fasnachu pan fydd digwyddiadau yng Nghaerdydd cysylltwch â’r Adran Drwyddedu
Trwyddedu
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND
Oriau agor
Dydd Llun i dydd Gwener: 10am – 3pm
Eithriadau
Mae eithriadau ar gael i werthwyr papurau newydd (yn yr unfan neu'n dosbarthu). Cysylltwch â ni i sicrhau eich bod wedi’ch eithrio cyn i chi ddechrau hyfforddi, neu efallai y caiff eich nwyddau eu hatafaelu a gallech wynebu gael eich erlyn a chael dirwy o hyd at £1000.
Pedler
Pedler yw rhywun sy’n teithio a masnachu ar ei draed, gan fynd o dref i dref neu o dŷ i dŷ yn gwerthu nwyddau neu gynnig ei sgiliau gwaith crefft a gwerthu pethau fel lluniau, cadachau a nwyddau ar gyfer y cartref. Caiff person sy’n masnachu’n gyfreithiol dan dystysgrif pedler oddi wrth yr heddlu fasnachu mewn stryd ar sail gyfyngedig, cyn belled â’u bod yn dilyn y rheolau:
- mae pedler yn gerddwr
- mae pedler yn masnachu wrth deithio yn hytrach na theithio i fasnachu
- mae pedler yn mynd at y cwsmeriaid yn hytrach na galluogi cwsmeriaid i ddod at y pedler
- mae pedler yn werthwr yn hytrach nag atgyweiriwr
- ni ddylai pedler aros yn ei unfan am gyfnodau maith o amser
- ni ddylai pedler godi stondin ac aros i bobl ddod ato
Rhagor o wybodaeth:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Cysylltu â ni
029 2087 1651