Rhaid i chi sicrhau bod eich busnes yn cyflawni’r safonau a’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch gofynnol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y safonau hyn ar wefan
yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a DiogelwchDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Rydym yn ymchwilio i gynion am faterion iechyd a diogelwch yn y gweithle megis:
- Cyflogwyr sy’n methu â darparu dillad diogelwch neu gyfleusterau toiled digonol.
- Amodau gwaith peryglus.
Rydym yn gorfodi deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn y gwaith mewn busnesau megis:
swyddfeydd a siopau
warysau
sefydliadau arlwyo
lleoedd chwaraeon ac adloniant
gwestai a llety preswyl
lleoliadau gofal plant
gofal a llety anifeiliaid
gwasanaethau cosmetig, tatŵo a thriniaethau harddwch
Mannau addoli.
Gwnawn hynny drwy gynnal arolygiadau wedi’u cynllunio a mentrau wedi’u targedu.
Rydym yn ymchwilio i ddamweiniau a gofnodwyd, clefydau, digwyddiadau peryglus a chwynion am ddiogelwch yn y gweithle.
Rydym hefyd yn sicrhau safonau diogelwch mewn digwyddiadau awyr agored mawr a gynhelir yn y ddinas.
Rhoi gwybod am fater iechyd a diogelwch
Os oes gennych bryderon am yr amodau neu’r cyfleusterau yn eich gweithle ac nad ydych wedi gallu datrys y mater gyda’ch cyflogwr, gallwch roi gwybod i ni am fater iechyd a diogelwch. Gallwch roi gwybod am y mater yn ddienw os yw’n well gennych.
Ymchwilio i ddamweiniau
Mae’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn datgan bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwr, person hunangyflogedig, neu rywun sy’n rheoli safle gwaith roi gwybod am anafiadau, clefydau a digwyddiadau peryglus penodol i’r awdurdod gorfodi.
Gwybodaeth am
beth y mae’n rhaid rhoi gwybod amdanoDolen yn agor mewn ffenestr newydd dan RIDDOR (Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 1995).
Mae dyletswydd gyfreithiol arnoch dan
RIDDOR i roi gwybod am rai damweiniau sy’n gysylltiedig â’r gwaith a’u cofnodi gan ddefnyddio’r dull cyflymaf posibl.
Diben hyn yw ein galluogi ni i wneud y canlynol:
- ymchwilio i beth achosodd y ddamwain
- ei atal rhag digwydd eto
- galluogi deiliaid dyletswyddau i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch
Rhoi gwybod am ddamwain neu ddigwyddiad difrifol
Dydd Llun i Ddydd Gwener 8.30am - 5pm
Cysylltwch â:
Canolfan Gyswllt Damweiniau
Parc Busnes Caerffili
Caerffili
CF83 3GG
Ffôn: 0845 300 9923 (codir cyfraddau lleol)
E-bost: riddor@natbrit.com
Ar gyfer ddigwyddiadau mwy difrifol megis:
- damweiniau angheuol
- damweiniau lle mae nifer o weithiwr wedi’u hanafu’n ddifrifol
- damwain sy’n achosi anaf difrifol i aelod o’r cyhoedd
- damweiniau a digwyddiadau sy’n achosi tarfu ar raddfa fawr megis cau ffyrdd, gwacáu cartrefi a busnesau, neu nifer fawr o bobl yn mynd i’r ysbyty
Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd:
Yr Adran Gorfodi Iechyd a Diogelwch
029 2087 1161