Cyhoeddodd Llywodraeth y DU 2 gynllun newydd i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.
Gwneud cais am fisa Cynllun Teulu Wcráin
Diben y cynllun hwn yw helpu pobl sy'n ffoi o Wcráin i ddod i ymuno ag aelod o'r teulu yn y DU neu ymestyn eu harhosiad yn y DU.
Dysgwch fwy am fisa cynllun teulu WcráinDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Cofrestrwch ar gyfer y Cynllun Cartrefi ar gyfer Wcráin
Os ydych am gynnig cartref i bobl sy'n ffoi o'r Wcráin, gallwch ddod yn 'noddwr' fel rhan o'r cynllun Cartrefi i'r Wcráin.
Ffyrdd eraill o helpu
Mae'r grŵp hwn o elusennau yn gweithio ar lawr gwlad yn Wcráin a gwledydd cyfagos i ddarparu hanfodion, gan gynnwys bwyd, dŵr, cysgod a chymorth meddygol.
Rhoi rhodd Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Ar hyn o bryd nid ydym yn cymryd rhoddion o ddillad na nwyddau eraill.
Diolch i holl drigolion a chymunedau Caerdydd am eu holl haelioni a chefnogaeth.
Apêl Argyfwng Wcráin y Groes Goch Brydeinig
Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi dadleoli degau o filoedd o Wcreiniaid o'u cartrefi a nodi dechrau'r hyn a allai fod yr argyfwng dyngarol mwyaf yn Ewrop ers degawdau.
Mae'r Groes Goch Brydeinig wedi lansio apêl codi arian brys mewn ymateb i'r ymladd yn Wcráin.
Y flaenoriaeth nawr yw helpu pobl i gael gafael ar ddŵr glân, gofal iechyd a chymorth seicogymdeithasol.
Mae Cymdeithas y Groes Goch Wcreinaidd a Phwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch (ICRC) wedi bod yn gweithio law yn llaw â chymunedau yr effeithiwyd arnynt i ymateb i'r anghenion dyngarol enfawr sydd wedi'u hachosi gan bron i wyth mlynedd o wrthdaro.
Byddai rhodd i Apêl Argyfwng Wcráin y Groes Goch Brydeinig yn golygu y gellir estyn dwylo i fwy o bobl sydd mewn angen dybryd.
Gallai eich rhodd helpu rhywun i gael:
- bwyd
- dŵr
- cymorth cyntaf
- meddyginiaethau
- dillad cynnes
- lloches
I roi, ewch i wefan argyfwng y Groes GochDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd