Mae Caerdydd yn estyn croeso cynnes i'r rhai sy'n cyrraedd o Wcráin ac rydym yn gweithio'n gyflym i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i newydd-ddyfodiaid yn ein dinas.
Fel Prifddinas Cymru, mae gennym hanes hir a balch o ddarparu noddfa i bobl sy'n dianc rhag gwrthdaro o bob cwr o'r byd.
Os ydych wedi cyrraedd y DU o Wcráin yn ddiweddar, croeso i Gaerdydd. Rydym am sicrhau bod gennych yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch.
Os oes gennych unrhyw broblemau neu bryderon, anfonwch e-bost atom
CymorthiWcrain@Caerdydd.gov.uk