Mae graffiti'n anghyfreithlon ac yn difetha'r amgylchedd lleol. Cewch eich erlyn o dan Ddeddf Droseddol 1971 os cewch eich dal.
Ein cyfrifoldebau
Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb i gael gwared ar graffiti oddi ar:
- Adeiladau cyhoeddus
- Henebion
- Celfi stryd (meinciau ac ati)
Dydyn ni ddim yn gyfrifol am
- Blychau ffôn
- Llochesau bysus
- Blychau trydan
- Hysbysfyrddau
Cyfrifoldeb y cwmni a'u gosododd yno yw'r rhain. Bydd angen i chi gysylltu â'r cwmni priodol:
Hysbysfyrddau (hysbysfyrddau hysbysebu)- mae enw'r cwmni hysbysfyrddau yn cael ei arddangos ar yr hysbysfwrdd a gellir cysylltu â’r cwmni’n uniongyrchol.
Nid ein cyfrifoldeb ni yw adeiladau preifat. Fodd bynnag, gyda chaniatâd y tirfeddiannwr, rydym weithiau'n helpu i gael gwared ar graffiti oddi ar adeiladau preifat.
Ein hymateb i adroddiadau am graffiti
Ein nod yw:
- Cael gwared ar graffiti nad yw'n dramgwyddus o fewn 10 diwrnod gwaith.
- Cael gwared ar graffiti hiliol neu dramgwyddus o fewn 24 awr waeth beth yw’r sefyllfa o ran perchnogaeth tir.
Os tybiwch eich bod wedi gweld graffiti y gellid ei alw’n drosedd casineb gallwch ddweud wrthym amdano ar-lein. Canfod
mwy am adrodd ar droseddau casineb.
Rhowch wybod am graffiti
Llenwch y ffurflen a rhowch gymaint o wybodaeth â phosib am leoliad y graffiti. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i ni ddod o hyd iddo. Gall y wybodaeth gynnwys:
- Enw'r ffordd
- Tirnodau
- Cyfeirnod ar bostyn lamp
- Enw neu rif yr adeilad