Yn 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bolisi newydd i bennu'r terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol yn 20mya mewn ardaloedd preswyl. Lansiwyd prosiect ganddynt i weithredu ardaloedd 'Cam 1', sy'n cynnwys Canol Gogledd Caerdydd, cyn y bwriad i gyflwyno'r cynllun yn genedlaethol yn 2023.
Rydym wedi ymrwymo at osod terfynau 20mya yn holl ardaloedd preswyl y ddinas, ac mae rhannau sylweddol o’r ddinas eisoes â therfynau 20mya eisoes ar waith.
Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gweithredu unrhyw derfynau cyflymder 20mya newydd nes i'r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym yn 2023.
Prosiect Canol Gogledd Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd yn rhan o gynllun Cam 1 Llywodraeth Cymru i ddatblygu prosesau technegol a strategaethau gorfodi a chyfathrebu yn rhan o'r newid cenedlaethol i derfyn cyflymder 20mya diofyn.
Mae terfyn cyflymder newydd 20mya wedi'i gyflwyno yn y wardiau canlynol. Bydd arwyddion 20mya yn yr ardal ond ni fydd llawer o rowndeli’n cael eu paentio ar y stryd.
- Ystum Taf
- Yr Eglwys Newydd a Thongwynlais
- Rhiwbeina
- Y Mynydd Bychan
Mae contractwyr y Cyngor wrthi'n gosod y llinellau a'r arwyddion ar gyfer cynllun Cam 1 20mya newydd yn Ystum Taf, yr Eglwys Newydd a Thongwynlais, Rhiwbeina a'r Mynydd Bychan.
Pan gaiff y cynllun ei weithredu'n llawn, bydd yr holl strydoedd preswyl yn y wardiau hyn yn cael eu cyfyngu i 20mya, ar wahân i Ffordd y Faenor a Rhodfa'r Gorllewin a fydd yn aros ar 30mya.
Mae arwyddion 30mya diangen yn cael eu tynnu i lawr ar hyn o bryd yn y wardiau hyn, gyda'r nod o gwblhau'r broses o weithredu'r cynllun erbyn 14 Mai. Byddwch yn amyneddgar tra bydd hyn yn digwydd.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyfyngiadau cyflymder 20mya ar
wefan Llywodraeth Cymru.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd