Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ydych chi’n berson ifanc sy’n cael ei faethu’n breifat?

Weithiau mae eich mam neu’ch tad (neu berthynas agos iawn arall) yn gofyn i rywun ofalu amdanoch am ychydig. Os byddwch yn aros yng nghartref y person hwn am fwy na 28 diwrnod (oddeutu mis) caiff hyn ei ystyried yn faethu preifat.

Pethau y dylai/na ddylai eich gofalwr maethu preifat eu gwneud


Wrth i chi fyw gyda nhw, dylent ofalu amdanoch fel pe baech yn blentyn iddyn nhw. Rhaid iddynt wneud yr holl bethau bob dydd i chi y mae rhieni yn eu gwneud ar gyfer eu plant eu hunain.
 

  • Rhoi prydau rheolaidd i chi - fel brecwast, cinio, a the
  • Sicrhau eich bod yn gofalu am eich gwallt a’ch croen yn iawn
  • Sicrhau bod gennych ddillad twym a glân a’ch gwely eich hun
  • Sicrhau eich bod yn mynd i’r ysgol fel y gallwch ddysgu
  • Mynd â chi at y doctor neu i’r ysbyty os ydych yn sâl neu wedi eich anafu, neu os oes angen brechiadau arnoch
  • Mynd â chi at y deintydd i sicrhau bod eich dannedd yn cael y gofal priodol
  • Sicrhau bod gennych gyfle i wneud ffrindiau a mwynhau chwaraeon a diddordebau rydych yn eu hoffi
  • Eich helpu chi i gadw mewn cysylltiad â’ch teulu
  • Eich helpu chi i ddilyn eich crefydd a'r arferion sy'n bwysig i chi a'ch teulu

 

Rhaid i’ch gofalwyr maethu preifat barchu’r pethau sy’n bwysig i chi a’ch teulu hefyd. Os oes gennych arferion crefyddol fel amseroedd gweddïo arbennig neu fwydydd arbennig rydych yn eu bwyta, dylai eich gofalwr maethu preifat barchu'r pethau hyn a'ch helpu chi i ddilyn yr arferion hyn. Rhaid iddynt eich helpu i ddysgu am eich diwylliant a chwrdd â phobl o'ch cymuned sy'n siarad eich iaith.

 

Pethau na chaniateir i ofalwr maethu preifat eu gwneud

  • newid eich enw
  • newid eich ysgol
  • eich symud chi i fyw gyda theulu arall
  • mynd â chi i ran arall o’r wlad hon
  • mynd â chi dramor i wlad arall heb ddweud wrth eich rhieni a gofyn am eu caniatâd 

 

Pan fo rhywun yn rhoi caniatâd mae’n golygu ei fod wedi dweud ‘ie’ i’r pethau y gofynnir.

 

Os bydd angen triniaeth feddygol ddifrifol arnoch, rhaid i'ch rhieni gytuno i hyn - oni bai ei fod yn fater brys ac nad oes modd cysylltu â’ch rhieni’n ddigon cyflym. Yna bydd y doctor yn penderfynu beth i'w wneud.

 

Os ydych yn cael eich maethu’n breifat ac am siarad â rhywun i gael mwy o wybodaeth neu help neu gyngor gallwch ffonio:

 

Pwynt Mynediad Plant
029 2053 6490
Dydd Llun i ddydd Gwener              8.30am-5pm


Y tu allan i'r oriau hyn, ffoniwch y tîm dyletswydd brys ar 029 2078 8570

© 2022 Cyngor Caerdydd