Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd

Mae’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd (15.6mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​ hwn yn ofynnol dan Reoliadau Perygl Llifogydd 2009. Mae’r cynllun yn nodi sut y bydd Cyngor Caerdydd, fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yn rheoli’r perygl o lifogydd o gwrs dŵr arferol, dŵr wyneb ffo a dŵr daear dros y chwe blynedd nesaf. 

Mae llifogydd yn parhau’n fygythiad allweddol i gymunedau ledled Cymru, ac mae rheoli’r risg hon drwy gynllunio gofalus yn bwysig i leihau’r risg i gymunedau.  Mae’r CRhPLl hwn yn datblygu’r amcanion a’r camau gweithredu sydd wedi’u nodi yn ein Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.   

Bydd y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd hwn hefyd yn ceisio cyflawni rhai o’r amcanion a nodir yn Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r fframwaith cenedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru drwy bedwar amcan cyffredinol:

  • Lleihau effeithiau llifogydd ac erydiad arfordirol i unigolion, cymunedau, busnesau a’r amgylchedd.
  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl a’u cynnwys wrth ymateb i berygl llifogydd ac erydiad arfordirol 
  • Sicrhau ymateb effeithiol a chyson i lifogydd ac erydiad arfordirol 
  • Blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau lle mae’r perygl mwyaf. 
​​
© 2022 Cyngor Caerdydd