Cyflwynwyd yr Ardoll Seilwaith Cymunedol (a elwir ‘yr ardoll’ neu ‘ASC’) ym mis Ebrill 2010 ac mae’n galluogi Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr i godi cyllid gan ddatblygwyr sy’n ymgymryd â phrojectau adeiladu newydd yn eu hardal. Mae’r Ardoll yn dâl a godir fesul metr sgwâr datblygiad newydd, a chaiff ei chasglu wrth weithredu’r datblygiad. Gellir defnyddio’r arian i dalu am ystod eang o seilwaith sydd ei angen i gynorthwyo twf. Gall hyn gynnwys pethau megis cynlluniau trafnidiaeth, ysgolion a mannau gwyrdd.
Bydd yr Ardoll yn disodli cyfraniadau Adran 106 ar gyfer llawer o fathau o seilwaith, er y gellir defnyddio cytundebau Adran 106 o hyd ar gyfer mesurau lliniaru ar safleoedd penodol ac ar gyfer darparu tai fforddiadwy.
Yn 2017, cyhoeddodd yr Adran dros Gymunedau a Llywodraeth Leol (AGLlL) adolygiad o’r Ardoll Seilwaith Cymunedol, o'r enw 'Adolygiad ASC: Adroddiad i’r Llywodraeth’, sy’n argymell cyfres o newidiadau i’r broses.
Ar y cam hwn, cafodd y gwaith o baratoi Ardoll Seilwaith Cymunedol ar gyfer Caerdydd ei roi o’r neilltu.
Ers hynny mae’r ASC wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru drwy Ddeddf Cymru 2017. Unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar ei ddull o ymdrin â’r Ardoll Seilwaith Cymunedol, bydd y Cyngor wedyn yn ystyried y ffordd orau o fwrw ymlaen ag ASC ar gyfer Caerdydd.
Bydd y Cyngor yn parhau i ofyn am gyfraniadau gan bob datblygwr drwy Adran 106 nes clywir yn wahanol.
Manylion Cyswllt
Os oes unrhyw ymholiadau gennych ynghylch yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a cysylltwch â:
Cysylltu â ni
Ardoll Seilwaith Cymunedol,
Cynllunio Strategol, Cyngor Caerdydd,
Ystafell 223, Neuadd y Sir,
Glanfa’r Iwerydd,
Caerdydd, CF10 4UW
029 2087 3483