Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cymorth gyda chostau ynni i fusnesau

​​​​​​​​Mae cymorth ar gael gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i'ch helpu gyda'ch costau ynni Busnes.

Cynllun Rhyddhad Biliau Ynni ​​


Mae cynllun rhyddhad biliau ynni llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi'n ddiweddar i gefnogi busnesau gyda chostau cynyddol ynni.   

Bydd y cynllun hwn yn rhoi rhyddhad ar filiau ynni i gwsmeriaid annomestig ym Mhrydain Fawr. 

Cymhwysir gostyngiadau at ddefnydd ynni rhwng 1 Hydref 2022 a 31 Mawrth 2023 i gychwyn.​

Ynni

Mae lleihau'r defnydd o ynni yn arbed arian, yn gwella enw da corfforaethol ac yn helpu pawb i arwain y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. 

Mae costau ynni yn aml yn cael eu trin fel gorbenion sefydlog gan sefydliadau, ond drwy gymryd y dull cywir o reoli ynni mae'n bosibl gwneud arbedion sylweddol. 

Cyngor am ynni​​

Dewch o hyd i gymorth swyddogol gan​ OFGEM, rheoleiddiwr ynni'r DU, ar gyfer busnesau ar gwynion ynni, ynni microfusnes a chyngor ar gynlluniau effeithlonrwydd ynni.

Effeithlonrwydd adnoddau ​​​

Mae effeithlonrwydd adnoddau yn cwmpasu pob agwedd ar fesurau ynni, gwastraff ac effeithlonrwydd dŵr. 

Dewch o hyd i gynnwys rhyngweithiol, fel fideos, testun ac ymarferion i'w lawrlwytho er mwyn helpu i ddefnyddio'ch deunyddiau crai yn ddoeth ar wefan Llywodraeth Cymru​.

Cwrs effeithlonrwydd adnoddau​ 

Mae cwrs sydd newydd ei ddatblygu ar gael i'ch cefnogi a chynyddu eich gwybodaeth i'ch helpu i arbed arian a buddsoddi mewn tyfu eich busnes. 

Cynghorion gorau ar gyfer Gwella Eich Effeithlonrwydd Adnoddau​​

Archwiliwch sut y gall eich busnes wneud mwy i fod yn adnoddau effeithlon ac arbed ynni, dŵr a lleihau gwastraff, gyda'r cyfarwyddiadau defnyddiol hyn. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth. ​

Gweler awgrymiadau ar sut i  wella effeithlonrwydd adnoddau i chi.​​

Ffederasiwn Busnesau Bach (FfBB)

Mae FfBB yn ymgyrchu i gefnogi'r gymuned busnesau bach gyda chostau busnes mewn cyfnodau anodd gan gynnwys biliau ynni cynyddol​


Cyngor ar Bopeth

Gweld cyngor i fusnesau gan Gyngor ar Bopeth am pryd mae biliau'n mynd yn rhy ddrud.​

​​


© 2022 Cyngor Caerdydd