Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Tai a digartrefedd

​Darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael i'ch helpu gyda materion tai a digartrefedd.​

Ydych chi’n cael trafferth talu eich rhent?

Os ydych chi'n cael trafferth talu'ch rhent, gall Cyngor Ariannol eich arwain ar yr opsiwn gorau i chi. 

Gallwch gysylltu ar 029 2087 1071 neu lenwi ffurflen ymholiad i gael cyngor ar rent

Ydych chi’n cael trafferth talu eich morgais?

Os ydych chi'n berchennog tŷ, efallai y gallwch gael cymorth tuag at daliadau llog ar: 

  • eich morgais, neu
  • benthyciadau rydych chi wedi’u cymryd ar gyfer atgyweiriadau a gwelliannau i'ch cartref. 


Yr enw ar hyn yw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais. 

Darganfyddwch a ydych yn gymwys a sut i wneud cais am Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais​

Digartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref

Os ydych chi'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref​, gallwch gysylltu â'n Canolfan Dewisiadau Tai ar 029 2057 0715 i gael cymorth a chyngor.  ​

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd