Cymorth i ddod o hyd i swydd, hyfforddiant a chyfleoedd i wella eich sgiliau.
Swyddi gyda ni
Rydym yn cynnig cyfleoedd i gefnogi cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Gyda chyflogau cystadleuol a mynediad i addysg.
GOV.UK Dod o hyd i Wasanaeth Gwaith
Os ydych chi'n chwilio am swydd, mae gwefan Gov UK yn dangos yr holl swyddi gwag sydd yn eich ardal leol.
Caerdydd ar Waith
Os ydych yn chwilio am waith dros dro i gael profiad a gwella’ch sgiliau, mae Caerdydd ar Waith yn hysbysebu swyddi byrdymor sydd ar gael ar draws adrannau'r cyngor.
Y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith
Os oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd i swydd, neu’n dymuno datblygu eich sgiliau proffesiynol, gall ein Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith eich helpu gyda:
- ysgrifennu CVs a cheisiadau am swyddi,
- dod o hyd i swyddi, lleoliadau a chyfleoedd gwirfoddoli,
- ffug gyfweliadau,
- dod o hyd i gyrsiau a hyfforddiant addas.
Cyngor Ariannol Caerdydd
Os ydych wedi dod yn ddi-waith yn ddiweddar ac yn poeni am arian, mae Cyngor Ariannol Caerdydd yn rhoi gwybodaeth am ba fudd-daliadau y gallech eu cael. Gallant hefyd roi cymorth i'ch helpu i ddychwelyd i'r gwaith.
Dysgu Oedolion Caerdydd
Os hoffech fynediad at addysg a hyfforddiant, mae gan Dysgu Oedolion Caerdydd ystod o gyrsiau a all helpu i ddatblygu eich sgiliau.
Mae'r cyrsiau'n hyblyg ac yn croesawu dysgwyr o bob gallu.
Gyrfa Cymru
P'un a ydych am ddod o hyd i arweiniad gyrfa, cyrsiau hyfforddi neu brentisiaethau, mae gan Gyrfa Cymru nifer o wasanaethau ac adnoddau i helpu i ddatblygu eich sgiliau.
ReAct Plws
Os ydych yn ddi-waith neu'n cael trafferth mynd i mewn i waith, gall ReAct Plws ddarparu cymorth wedi'i deilwra i'ch helpu i ddod o hyd i swydd. Efallai y byddwch yn gallu cael:
- grantiau ariannol a gofal plant,
- mynediad i addysg a hyfforddiant,
- mentor i gefnogi gyda phrofiad gwaith.