Dysgwch am yr ystod o gymorth sydd ar gael i'ch cadw'n iach a helpu gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles.
Cymorth gyda thriniaeth y GIG
Dod o hyd i gymorth i dalu costau'r GIG
Cymorth i dalu costau'r GIG
Efallai y byddwch yn gallu cael profion llygaid am ddim, triniaeth ddeintyddol a chymorth gyda chostau eraill y GIG os ydych:
- yn 16 oed neu hŷn,
- ar incwm isel,
- yn cael budd-daliadau penodol,
- yn feichiog,
- wedi cael diagnosis o gyflwr meddygol.
Cymorth i dalu costau teithio’r GIG
Os ydych o dan ofal meddyg ymgynghorol ac angen teithio i dderbyn triniaeth y GIG, efallai y gallwch gael cymorth i dalu am eich costau teithio.
Cymorth iechyd meddwl a lles
Dewch o hyd i gyngor a chefnogaeth gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles.
Gwasanaeth Cymorth Lles Hyb
Gallwch gael cymorth gyda'ch iechyd meddwl a'ch lles gan ein Hybiau. Rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a gwasanaethau i'ch helpu.
Dewis Cymru
Os hoffech ddod o hyd i gyngor neu grŵp cymorth lles yn eich ardal, mae gan Dewis Cymru adnoddau defnyddiol i'ch cefnogi.
Mind Cymru
Os ydych chi'n cael problem gyda'ch iechyd meddwl ac mae angen cymorth arnoch, gall Mind ddarparu cyngor a gwasanaethau am ddim i'ch helpu.
Llinell gymorth CALL
Os hoffech chi siarad â rhywun am eich iechyd meddwl, mae CALL yn llinell gymorth a gwasanaeth testun am ddim sy'n rhoi cyngor i gefnogi eich lles.