Darganfyddwch pa gymorth sydd ar gael i gyn-filwyr.
Tîm Cyn-filwyr
Os ydych chi'n gyn-filwr neu'n gwasanaethu ym mhersonél y Lluoedd Arfog, gallwn eich helpu chi a'ch teulu gyda materion fel:
- tai,
- cyflogaeth
- budd-daliadau,
- dyled.
Y Lleng Brydeinig Frenhinol
Gall y
Lleng Brydeinig Frenhinol gefnogi pobl sydd yn y lleng ar hyn o bryd a phobl oedd yn arfer bod yn y lleng, a’u teuluoedd, sy’n dioddef yn ariannol. Gallant hefyd helpu'r rhai y mae angen cymorth brys arnynt gydag argyfwng dros dro, fel digartrefedd.
Ffoniwch 0808 802 8080 i gael rhagor o wybodaeth.
Change Step
Mae
Change Step yn wasanaeth cymorth a ddarperir gan gyn-filwyr, ar gyfer cyn-filwyr. Gallant gynnig gwasanaeth mentora cymheiriaid a chymorth i ddefnyddio gwasanaethau gan gynnwys:
- cymorth gydag iechyd meddwl,
- cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau,
- cyfiawnder troseddol,
- cyngor ar dai.
Ffoniwch 0300 777 2259 i gael rhagor o wybodaeth.