Dysgwch am y cymorth sydd ar gael yn benodol i bobl hŷn a phensiynwyr.
Credyd Pensiwn
Os ydych o oedran pensiwn y wladwriaeth ac ar incwm isel, efallai y gallwch gael Credyd Pensiwn i helpu tuag at eich costau byw. Mae hyn yn wahanol i bensiwn y wladwriaeth ac nid yw'n effeithio arno.
Os ydych eisoes yn cael Credyd Pensiwn, efallai gallwch gael cymorth arall i'ch helpu gyda chostau byw.
Taliadau Tywydd Oer
Gallech gael £25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth 2024.
Gwiriwr Cymhwysedd GOV.UK
Gallwch ddefnyddio gwiriwr cymhwysedd GOV.UK i ddarganfod a ydych yn gymwys i gael budd-daliadau neu gymorth ariannol.
Lwfans Gweini
Os ydych o oedran pensiwn y wladwriaeth ac mae gennych anghenion gofal, gallech fod yn gymwys i gael Lwfans Gweini i dalu cost eich gofal.
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich anabledd neu anghenion gofal.
Derbyn Taliad Annibyniaeth Bersonol
Os ydych o dan oedran pensiwn y wladwriaeth a bod gennych anabledd neu anghenion gofal, efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliadau Annibyniaeth Bersonol i helpu gyda chostau byw.
Telir hyn mewn dwy ran, ac mae'r taliadau a gewch yn dibynnu ar eich anabledd a'ch anghenion gofal.
Help gyda'ch rhent
Os ydych o oedran pensiwn y wladwriaeth, neu'n byw mewn llety â chymorth neu dros dro, gallech gael Budd-dal Tai i'ch helpu gyda chost eich rhent.