Cymorth gyda chostau teulu ifanc, gan gynnwys cymorth gofal plant.
Budd-dal Plant
Gallwch gael taliadau budd-dal plant os ydych yn gyfrifol am yr isod:
- plentyn dan 16 oed
- plentyn o dan 20 oed sy'n dal i fod mewn addysg
Nid oes cyfyngiad ar faint o blant y cewch hawlio amdanynt, ond dim ond un rhiant sy'n cael hawlio.
Dechrau Iach
Gallech gael cymorth i brynu bwyd a llaeth iach i'ch plentyn os:
- ydych yn cael budd-daliadau penodol,
- oes gennych blentyn o dan 4 oed,
- ydych wedi bod yn feichiog am fwy na 10 wythnos.
Lwfans Mamolaeth
Os ydych wedi bod yn feichiog am fwy na 26 wythnos, efallai y gallwch hawlio Lwfans Mamolaeth.
Mae hyn yn wahanol i Dâl Mamolaeth Statudol. Ni allwch hawlio'r ddau fudd-dal gyda’i gilydd.
Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
Os ydych chi neu'ch partner yn cael budd-daliadau penodol ac nad oes gennych blant eraill o dan 16 oed, efallai y gallwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.
Gofal Plant Di-reth
Os ydych yn gweithio, efallai y gallwch gael hyd at £2000 y flwyddyn i helpu i dalu costau gofal plant. Gallwch wneud cais dim ond os yw'ch plentyn yn 11 oed neu iau.
30 Awr o Fal Plant Am Ddim
Os yw eich plentyn yn 3 i 4 oed, gallech gael hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim.
Dechrau'n Deg
Os yw eich plentyn o dan 4 oed, efallai y byddwch yn gallu cael gofal plant rhan-amser am ddim.
Dim ond os yw Dechrau'n Deg yn gwasanaethu’ch ardal y byddwch yn gallu cael hyn.