Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rhandiroedd - Polisi Preifatrwydd y Gwasanaethau Parciau

​​

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae'r Gwasanaethau Parciau yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn rhoi eich manylion mewn perthynas â rhandiroedd. 

Mae'r Gwasanaethau Parciau yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef Rheolydd y Data at ddibenion y data sy'n cael ei gasglu. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.



Pa ddata rydym yn ei gasglu?​

Mae’r Gwasanaethau Parciau yn casglu'r data canlynol:


  • Gwybodaeth adnabod bersonol (Enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, dyddiad geni, cymhwysedd consesiwn (budd-daliadau).
  • Manylion talu.


Cesglir hyn at ddibenion rheoli rhestrau aros rhandiroedd a manylion unrhyw denantiaeth rhandir a gymerir (rhif plot a safle rhandir) a chyhoeddi anfonebau ar gyfer y plot.

Rydym hefyd yn prosesu peth o'r data hwn os ydych yn gwirfoddoli fel cynrychiolydd safle.

Sut rydym yn casglu eich data?







Rydych chi'n rhoi'r rhan fwyaf o'r data rydyn ni'n ei gasglu yn uniongyrchol i'r Gwasanaethau Parciau. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn: 

  • Cofrestru ar-lein i wneud cais i fynd ar restr aros rhandiroedd.
  • Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu'n rhoi adborth ar unrhyw un o'n byrddau negeseuon neu drwy e-bost.
  • Defnyddio ein gwefan neu edrych arni trwy gwcis eich porwr.
  • Cynnig eich hun i fod yn gynrychiolydd safle.


Efallai y bydd y Gwasanaethau Parciau hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o'r ffynonellau canlynol:

  • Efallai y bydd eich manylion yn cael eu hanfon at y Gwasanaethau Parciau os byddwch yn cysylltu â'r adran Cyfrifon Derbyniadwy / Adennill Incwm am eich anfoneb 
    rhandir.

Sut y byddwn yn rhannu eich data

Mae Cyngor Caerdydd yn storio'ch data yn ddiogel yn Orkastrate, system ddiogel yn y Cwmwl a ddarperir gan Orkastrate sy'n ddarparwr meddalwedd trydydd parti. Mae gan staff Cyngor Caerdydd a chynrychiolydd y safle rhandiroedd fynediad i'r system ddiogel hon yn y cwmwl gyda diogelwch cyfrinair. Bydd Cyngor Caerdydd yn cadw eich data personol drwy gydol y denantiaeth rhandir.

Unwaith y bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, bydd eich data yn cael ei anonymeiddio ac na ellir eich adnabod. 

Bydd data ariannol yn cael ei gadw am 6 blynedd ar ôl i'ch tenantiaeth ddod i ben.​

Cynrychiolwyr Safle

Mae gan safleoedd rhandiroedd Caerdydd Gynrychiolwyr Safle sy'n aelodau pwyllgor. Tenantiaid rhandiroedd yw'r rhain sydd wedi'u hethol i'r rôl ac maent yn hwyluso'r gwaith o reoli'r safle rhandiroedd ar ran y Gwasanaeth Rhandiroedd.  Mae'r Cynrychiolwyr Safle yn dangos lleiniau gwag i ddarpar denantiaid, yn cynorthwyo gydag arolygiadau safle, yn cynghori ar faterion safle, gan gynnig arweiniad i denantiaid newydd a phresennol. 

​I gyflawni'r rôl hon, darperir y wybodaeth ganlynol i Gynrychiolydd y Safle:  

  • Tenantiaid presennol: enw, rhif y plot, cyfeiriad e-bost, a rhif ffôn.
  • Darpar denantiaid: enw, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn. 



Bydd Cynrychiolwyr y Safle ond yn cadw eich gwybodaeth tra byddant yn cyflawni'r rôl hon.

Fe'ch hysbysir gan y Gwasanaeth Rhandiroedd os nad yw cynrychiolydd safle yn y swydd mwyach. Fel rhanddeilydd, bydd Pwyllgor y Safle Rhandiroedd yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi pryd y disgwylir i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gael ei gynnal a fydd yn cynnwys ethol y Pwyllgor (gan gynnwys Cynrychiolydd y Safle). 

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Dan Ddeddf Diogelu Data 2018, y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth bersonol yw:​

  • Erthygl 6(1)(b) GDPR y DU - Mae gennym rwymedigaeth gytundebol (Cytundeb Tenantiaeth) gyda chi.
  • Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU - Lle bo angen cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer swyddogaethau awdurdod lleol o dan Ddeddf Rhandiroedd 1908 fel y'u haddaswyd o dan Ddeddf Rhandiroedd 1950.
  • Erthygl 6(1)(a) GDPR y DU – Gyda'ch cydsyniad pan fyddwch yn ymateb i'n harolygon.


Caiff eich data ei ddefnyddio gan Gyngor Caerdydd at y dibenion canlynol:

  • ymrwymo a chyflawni telerau Cytundeb Tenantiaeth Rhandiroedd,
  • cynnal a gweinyddu'r cofnodion ar y gronfa ddata rhandiroedd,
  • cysylltu â chi os bydd problem gyda'ch tenantiaeth/llain,
  • anfon gwybodaeth adnewyddu,
  • ein galluogi i gyflawni'r holl rwymedigaethau cyfreithiol a statudol,
  • rhoi gwybod i chi am newidiadau fel atgyweirio a chynnal a chadw, a
  • mynd ar drywydd taliadau sy'n ddyledus.​

Beth yw eich hawliau diogelu data? ​​

Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data.​ 

Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:​

​​Yr hawl i gael mynediad

Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd am gopïau o'ch data personol.​

Yr hawl i gywiro​

Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. 

Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi. 

Yr hawl i ddileu

Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd ddileu eich data personol, dan rai amodau.​


Yr hawl i gyfyngu prosesu

Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu

Mae gennych hawl i wrthwynebu i Gyngor Caerdydd brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data 

Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.​





Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni:

Ffôn: 029 2087 2088

Email: diogeludata@caerdydd.gov.uk

​Cookies

Mae cwcis yn ffeiliau testun a roddir ar eich cyfrifiadur i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a gwybodaeth am ymddygiad defnyddwyr. Pan fyddwch chi’n ymweld â’n gwefannau, mae’n bosibl y byddwn ni’n casglu data gennych yn awtomatig trwy gwcis neu dechnoleg debyg.  

Rhagor o wybodaeth am cwcis.

Polisïau preifatrwydd gwefannau eraill

Mae tîm Parciau Cyngor Caerdydd yn defnyddio Ap yn y Cwmwl a ddarperir gan Orkastrate.

Gweld polisi preifatrwydd Orkastrate​​.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd​

Mae Cyngor Caerdydd yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. 

Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 5 Mawrth 2024.

Sut i gysylltu â ni ​

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Cyngor Caerdydd, y data rydym yn ei gadw amdanoch, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy'r post: 

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW





Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol

​IOs hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Cyngor Caerdydd wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 0303 123 1113.  










© 2022 Cyngor Caerdydd