Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn egluro sut mae Gwasanaeth Cymorth Lles Caerdydd (GCLlC) yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn ymgysylltu â'n gwasanaethau ar gyfer cymorth lles.
Mae GCLlC yn rhan o Gyngor Caerdydd, y Rheolwr Data at ddibenion casglu data. Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.
Pa ddata rydym yn ei gasglu?
Mae GCLlC yn casglu'r data canlynol:
- Enw
- Cyfeiriad
- Cod Post
- Rhywedd
- Cyfeiriad E-bost
- Dyddiad Geni
Cesglir hyn at ddibenion asesu eich anghenion cymorth a chreu cynllun gweithredu o ran sut y gallwn eich cefnogi i wella'r anghenion hyn. Byddwn hefyd yn defnyddio'r manylion hyn i gysylltu â chi i roi gwybod i chi am unrhyw wasanaethau cymorth y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae'r gyfraith Diogelu Data yn disgrifio'r sail gyfreithlon dros brosesu eich data fel sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni: (e) Tasg gyhoeddus: mae'r prosesu'n angenrheidiol i chi berfformio tasg sydd er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth seiliau clir yn y gyfraith.
Deddfwriaeth: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Mae GCLlC yn casglu'r data categori arbennig canlynol:
- Data anabledd
- Iechyd Corfforol a Meddyliol
Mae GCLlC yn prosesu categori arbennig o dan Erthygl 9 (2): (g) Rhesymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd (gyda sail gyfreithiol) o dan Atodlen 1 amod 6: Dibenion statudol a llywodraethol.
Mae GCLlC yn casglu'r data categori arbennig canlynol gyda'ch caniatâd penodol:
Mae GCLlC yn casglu'r data sensitif canlynol: Cesglir y data hwn er mwyn asesu ai'r CWSS yw'r gwasanaeth cymorth priodol i chi.
- Amddiffyn Plant
- Diogelu Oedolion
- Data Trosedd
Mae CWSS yn prosesu data troseddau o dan y canlynol:
- Atodlen 1 Rhan 1 Amod 6: yn angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol i'r cyhoedd.
- Atodlen 1 Rhan 2 Amod 18: Diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl.
- Atodlen 1 Rhan 3 Amod 30: Amddiffyn buddiannau hanfodol yr unigolyn.
Sut rydym yn casglu eich data?
Rydych chi'n darparu'r rhan fwyaf o'r data rydyn ni'n ei gasglu yn uniongyrchol i GCLlC. Rydym yn casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch yn:
- Ymgysylltu'n wirfoddol â GCLlC.
Efallai y bydd GCLlC hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o'r ffynonellau canlynol:
- Sefydliadau trydydd parti sy'n eich cyfeirio at ein gwasanaethau.
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Mae GCLlC yn casglu eich data fel y gallwn:
- Asesu eich anghenion a darparu'r cymorth mwyaf effeithiol.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?
Os byddwch yn cydsynio, bydd GCLlC yn rhannu eich data â sefydliadau trydydd parti a fydd yn gallu cynnig eu cymorth a'u gwasanaethau i chi.
Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl i'w rannu gyda sefydliadau trydydd parti ar unrhyw adeg drwy e-bostio: timlles@caerdydd.gov.uk neu gallwch siarad â'ch mentor.
Sut rydym yn storio eich data?
Mae GCLlC yn storio'ch data yn ddiogel ar systemau diogelu cyfrineiriau Cyngor Caerdydd.
Bydd GCLlC yn cadw cofnod o'ch cymorth am 2 flynedd. Pan fydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, byddwn yn dileu eich data.
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai GCLlC wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad
Mae gennych hawl i ofyn i GCLlC am gopïau o'ch data personol.
Yr hawl i gywiro
mae gennych chi hawl i ofyn i GCLlC gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych chi hefyd hawl i ofyn i GCLlC bod y wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi yn cael ei chwblhau.
Yr hawl i ddileu
Mae gennych hawl i ofyn i GCLlC ddileu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
Mae gennych hawl i ofyn i GCLlC roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i wrthod prosesu
Mae gennych hawl i wrthod i GCLlC brosesu eich data personol, dan rai amodau.
Yr hawl i gludo data
Mae gennych hawl i ofyn i GCLlC drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.
Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost:
Ffoniwch ni ar: 029 2087 2088
Neu ysgrifennwch atom:
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Newidiadau i'n polisi preifatrwydd
Mae GCLlC yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 26 Ionawr 2024.
Sut i gysylltu â ni
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd GCLlC, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost i diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy'r post:
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol
Os hoffech gwyno neu os ydych yn teimlo nad yw GCLlC wedi mynd i'r afael yn briodol â'ch cwyn, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 0303 123 1113.