Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyngor Caerdydd mewn Partneriaeth â Gymdeithas Tai Wales and West

​​​Mae Cyngor Caerdydd yn cyflenwi gwasanaethau cynnal a chymorth ar gyfer llety â chymorth mewn partneriaeth â Gymdeithas Tai Wales and West.

Bydd Cyngor Caerdydd yn Rheolydd Data ar y cyd â Gymdeithas Tai Wales and West at ddibenion y data a gesglir fel rhan o'r trefniant hwn.

Prosesir yr holl ddata yn unol â’r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Pam rydym yn anfon yr hysbysiad hwn atoch


Mae angen eich data personol ar Gyngor Caerdydd i gyflawni tasgau penodol sy’n ymwneud â darparu tai a gwasanaethau cynnal.

Mae’r hysbysiad hwn wedi’i greu i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’ch data a’r mesurau diogelwch sydd ar waith i’w ddiogelu.

Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn cael gafael arno 


Yn ystod ein gwaith gyda chi, rydym yn casglu amrywiaeth o wybodaeth gennych chi a'n partner Cymdeithas Tai Wales and West Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Enw, cyfeiriad a dyddiad geni
  • Gwybodaeth cyfrif ac is-gyfrif rhent.
  • Gwybodaeth rheoli tenantiaeth (e.e. unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, unrhyw sancsiynau tenantiaeth sydd wedi’u rhoi.
  • Gwybodaeth bersonol berthnasol a fydd yn ein galluogi i roi'r cymorth, cyngor neu gefnogaeth sydd eu hangen i chi reoli eich tenantiaeth yn y dyfodol.
  • Unrhyw wybodaeth arall a gedwir gan Gymdeithas Tai Wales and West y bernir ei bod yn angenrheidiol i'w rannu.
  • Eich anghenion a’ch amgylchiadau. 
  • Cofnod o gyngor ac arweiniad a roddwyd i chi gan ein staff.
  • Gwybodaeth a ddarperir gan wasanaethau eraill yn gweithio gyda chi, e.e. sefydliadau partner, gwasanaethau iechyd, gweithwyr cymorth, gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau eraill.


Sut y byddwn yn defnyddio'ch data personol 


Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau:

  • Bod gan y staff sy’n gweithio gyda chi wybodaeth gywir, gyfredol er mwyn eu helpu i benderfynu ar y cyngor neu gymorth gorau ar eich cyfer chi.
  • Bod cofnodion cywir pan fyddwn yn adolygu eich amgylchiadau personol.
  • Y gellir ystyried unrhyw bryderon yn briodol os bydd gennych gŵyn.

Pa mor hir rydym yn cadw eich data personol 


Caiff eich data personol ei gadw cyn hired ag sydd angen er mwyn cyflawni’r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y gallem eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghofrestr Gadw’r Cyngor​.

Ein sail gyfreithlon


Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol yn gyffredinol fydd un neu fwy o'r canlynol:

  • Cydsyniad, wrth gasglu eich data i gychwyn er mwyn darparu llety.
  • Contract, ar ôl i Gyngor Caerdydd ymrwymo i gytundeb i dderbyn eich llety a ddyrannwyd.
  • Cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014.
  • Cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein swydd fel corff cyhoeddus.

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?


Er mwyn darparu'r gwasanaeth hwn i chi, byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â’r canlynol: 

  • Cymdeithas Tai Wales and West
  • Gwasanaethau ac adrannau eraill Cyngor Caerdydd
  • Gwasanaethau allanol gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, y gwasanaeth prawf, yr heddlu a'r gwasanaeth carchardai

Rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau a sefydliadau eraill


Weithiau, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth bersonol heb ofyn i'r unigolyn. Gall hyn ddigwydd:  ​

  • Ar gyfer gweithdrefnau cyfreithiol pan wneir Gorchymyn Llys.
  • Os oes perygl o niwed neu gamdriniaeth i chi neu bobl eraill.
  • Pan na fyddwch, o bosibl, yn gallu cydsynio, oherwydd cyflwr iechyd meddwl neu gorfforol er enghraifft.
  • Er mwyn cynorthwyo’r awdurdodau i atal/datrys troseddau neu erlyn troseddwyr, neu asesu/talu treth.

Eich hawliau


Fel gwrthrych y data, mae gennych yr hawl i gael gafael ar gopïau o'ch data a chywiro unrhyw ddata anghywir neu hen ddata.

Mewn amgylchiadau cyfyngedig efallai y gallwch ofyn am ddileu eich data, cyfyngu ar brosesu eich data a gwrthwynebu prosesu eich data.​

Tynnu cydsyniad yn ôl


Yn ystod y broses o ddod o hyd i lety i chi, y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni yw cydsyniad. Felly, gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod y cam hwn. 

Fodd bynnag, ar ôl dyrannu’r llety, daw'r sail gyfreithlon yn gontract ac ni allwch dynnu eich cydsyniad yn ôl mwyach ar y cam hwn. 

I dynnu eich cydsyniad yn ôl, cysylltwch â rheolitenantiaeth@caerdydd.gov.uk.​

Hysbysiadau preifatrwydd eraill


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cymdeithas Tai Wales and West yn prosesu data personol, cyfeiriwch at eu Hysbysiad Preifatrwydd​

Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth. 

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth 
Neuadd y Sir 
Glanfa’r Iwerydd 
Caerdydd
CF10 4UW


Gwybodaeth ychwanegol


Am ragor o wybodaeth darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Llawn y Cyngor​.​





​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd