Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hybysiadau Preifatrwydd Cyllid Amgen Cynllun Taliad Tanwydd Amgen

Mae seiliau cyfreithiol yr Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net ar gyfer Prosesu'r Data Personol perthnasol, gan gynnwys Data Categori Arbennig, yn cynnwys (i) cyflawni tasg er budd y cyhoedd dan Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU, a (ii) er budd sylweddol y cyhoedd dan Erthygl 9(2)(g) GDPR y DU.

Mae'r cynllun Taliad Tanwydd Amgen yn rhoi taliad o £200 i ddefnyddwyr ynni domestig ym Mhrydain Fawr sy'n defnyddio tanwyddau amgen fel olew gwresogi, nwy petrolewm hylifedig neu fiomas fel eu prif ffynhonnell o wresogi. Bydd y rhan fwyaf o aelwydydd cymwys yn derbyn y taliad hwn yn awtomatig drwy eu cyflenwr trydan. Bydd angen i gyfran fach o aelwydydd wneud cais am y taliad, er enghraifft gan nad oes ganddynt berthynas â chyflenwr trydan. Bydd yr aelwydydd hyn yn gwneud cais drwy borth GOV.UK a fydd yn cynnwys trosolwg o gymhwysedd a'r hyn y mae angen i ymgeiswyr ei wneud i wneud cais am gymor​th. Ar ôl i ddefnyddwyr ynni domestig wneud cais i gael cymorth ac ar ôl i’w cais gael ei wirio’n fewnol, bydd manylion ymgeiswyr cymwys yn cael eu rhannu gydag awdurdodau lleol (ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban).

I gael mwy o wybodaeth am sut mae’r Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net yn prosesu eich data, ewch i yr wefan​.   



​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd