Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Holi Caerdydd 2023

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae Holi Caerdydd yn arolwg blynyddol a gynhelir gan Gyngor Caerdydd. 

​Mae’r arolwg yn rhoi cyfle i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd a’r rhai sy’n ymweld â’r ddinas i rannu eu profiadau o wasanaethau cyhoeddus.

Y llynedd rhannodd bron 4,000 o bobl eu barn gyda ni – sicrhewch y caiff eich llais ei glywed.​
​​
Trwy gymryd tuag 20 munud i gwblhau’r arolwg hwn, byddwch yn ein helpu i:
  • ​ddeall yn well sut mae pobl yn profi’r ddinas a’n gwasanaethau cyhoeddus.
  • deall yr hyn sy’n bwysig i chi a’ch cymuned leol. 
  • g​​wneud newidiadau a gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus ein dinas. ​




​​​

Gallwch gystadlu yn y raffl i ennill:

  • tocyn teulu i sglefrio yng Ngŵyl y Gaeaf eleni
  • 4 tocyn i gêm Devils Caerdydd, neu
  • u​n o ddeg taleb £50 FOR Cardiff, y gellir eu gwario mewn ystod eang o fwytai a siopau’r stryd fawr.​

4 tocyn i gêm Cardiff Devils


  • Rhaid archebu'r gêm o leiaf 3 wythnos ymlaen llaw trwy e-bostio gsimons@caerdydd.gov.uk.
  • Bydd y tocynnau digidol yn cael eu e-bostio i gyfeiriad e-bost yr enillydd.
  • Yn ddilys ar gyfer tocynnau oedolion neu blant.
  • Yn amodol ar argaeledd.
  • Gemau Cynghrair Elit 2023/2024 yn unig. Ni ellir drosglwyddo’r wobr.
  • Ni allwch gyfnewid y wobr am arian parod.

Tocyn teulu i Ŵyl y Gaeaf


  • Yn ddilys ar gyfer dau oedolyn a dau blentyn neu un oedolyn a thri phlentyn.
  • Bydd yr enillydd yn derbyn cod i'w ddefnyddio drwy'r system archebu ar-lein.
  • Yn ddilys rhwng 16 Tachwedd 2023 a 2 Ionawr 2024.
  • Yn amodol ar argaeledd. Ni allwch gyfnewid y wobr am arian parod.
 

Dweud eich dweud

Gallwch gwblhau'r arolwg hwn yng Nghymraeg, Saesneg, Arabeg, Pwyleg neu Fengaleg. Mae fersiwn darllen sgrin ar gael ar gyfer pob un o'r ieithoedd hyn.


​​Gallwch gael copi print o hyb neu lyfrgell, neu ebostiwch ymynghoriad@caerdydd.gov.uk  i gael un drwy’r post.

Mae’r arolwg yn cau ar 19 Tachwedd 2023. ​

© 2022 Cyngor Caerdydd