Bydd Caerdydd yn nodi coroni'r Brenin Charles III gyda chyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus swyddogol, gan gynnwys saliwt gynnau brenhinol, picnic ‘Brenhinol Go Iawn', partïon stryd, a dangosiadau o Wasanaeth y Coroni a Chyngerdd y Coroni.
Amserlen lawn digwyddiadau swyddogol y Coroni, sy'n cael eu cynnal dros y penwythnos, yw:
Y Gwasanaeth Coroni a'r Salíwt Ynnau
9:30am i 2:30pm, Dydd Sadwrn 6 Mai, mynediad am ddim, dim angen tocyn.
Bydd sgrin fawr yng ngerddi Castell Caerdydd i ymwelwyr wylio Gwasanaeth y Coroni - a'r orymdaith i Abaty Westminster ac oddi yno. Caiff ysalíwtynnau hefyd ei gynnal yn y Castell, yn rhan o rwydwaith o saliwtiau ledled y Deyrnas, wrth i'r Brenin gael ei goroni.
Bydd Catrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol, Masgots Catrodol o'r Cymry Brenhinol a Marchfilwyr 1af y Frenhines gyda Gwarchodlu o Bedwar, y Gwarchodlu Cymreig a Band Catrodol a Chorfflu Drymiau'r Cymry Brenhinol yn bresennol, ynghyd â chynrychiolwyr o'r Llynges Frenhinol a'r Llu Awyr.
Oherwydd trefniadau seremonïol sy'n digwydd yn fyw yn y Castell fel rhan o'r coroni mae'n bosib taw dim ond is-deitlau fydd ar rai elfennau o ddangosiad y prif ddigwyddiad coroni yn Llundain.
Picnic Brenhinol
12pm i 4pm, Dydd Sul 7 Mai, mynediad am ddim, dim angen tocynnau.
Casglwch eich teulu a ffrindiau ynghyd, paciwch eich picnic, ac ymunwch â phawb yng Nghastell Caerdydd ar gyfer Picnic Brenhinol Go Iawn fel rhan o Ginio Mawr y Coroni ledled y Deyrnas. Bydd y dathliadau'n cynnwys rhaglen o gerddoriaeth fyw gweithgareddau crefft i'r teulu, ac adloniant symudol ar thema, gan greu awyrgylch o ddathlu wrth i bobl rannu bwyd a hwyl gyda'i gilydd.
Cinio Mawr y Coroni
8am i 8pm, Dydd Sul 7 Mai.
Bydd y baneri allan wrth i gymunedau lleol gynnal partïon stryd ar draws y ddinas i ddathlu'r coroni. Mae'r Cyngor wedi hwyluso cau 44 o ffyrdd preswyl ar draws y ddinas, er mwyn galluogi cymdogion i ddod ynghyd i fwynhau'r achlysur mawr.
Cyngerdd y Coroni
7:30pm i 11pm, Dydd Sul 7 Mai, Roald Dahl Plass.
Ymunwch â ni ym Mae Caerdydd i wylio Cyngerdd y Coroni, a ddarlledir yn fyw o Gastell Windsor, ar sgrin fawr yn Roald Dahl Plass. Mwynhewch fwyd a diod o un o'r nifer o fariau, caffis a bwytai ar y glannau. Yna edrych i'r awyr ar gyfer uchafbwynt y noson, wrth i Gaerdydd ymuno â lleoliadau ar draws y Deyrnas i 'Oleuo'r Deyrnas' gyda sioe oleuadau drochi, fydd yn cynnwys fflyd o 300 o ddronau yn hedfan yn uchel uwchben adeiladau eiconig Bae Caerdydd.
Mae’r darllediad o’r gyngerdd yn dechrau ar y sgrîn fawr am 8pm, gyda’r brif sioe dronau’n dechrau ychydig wedi 9:15pm (union amser yn dibynnu ar yr amserlen ddarlledu a’r tywydd).