Os oes rheswm gennych dros gredu bod eich gwerth ardrethol yn anghywir, mae angen i chi roi gwybod i
Asiantaeth y Swyddfa BrisioDolen yn agor mewn ffenestr newydd cyn gynted â phosibl.
Eich gwerth ardrethol yw gwerth rhent eich eiddo fel yr oedd ar 1 Ebrill 2008. Er mwyn gwneud newid, mae angen i chi allu dangos pam eich bod o’r farn bod y prisiad yn anghywir.
Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhoi manylion llawn i chi o ran yr hyn sydd angen i chi ei wneud. Gallwch weld prisiadau eiddo eraill a’u cymharu â’ch prisiad chi hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor mae croeso i chi gysylltu â ni
Cysylltu â ni
029 2087 1491