Mae Marchnad Caerdydd, adeilad Fictoraidd trawiadol wedi'i leoli yng nghanol prysurdeb modern y ddinas, yn rhoi profiad siopa unigryw i ymwelwyr.
O dan un to gwydr mae amrywiaeth anhygoel o gynnyrch, o sosbenni a phadelli i fara a menyn, o hoelion a sgriwiau i roc a rôl.
Mae Marchnad Caerdydd wedi bod yn masnachu mewn rhyw ffurf ers y 1700au, ac mae'n hŷn na phob siop fawr yng nghanol y ddinas.
Mae'r farchnad wedi sefyll ar yr un safle ers 100 o flynyddoedd, ac er na ddewch chi bellach ar draws da byw wedi'u rhwymo y tu allan i'r drysau, mae rhai o'r hen nodweddion yn dal i'w gweld hyd heddiw.
Marchnad Caerdydd
Heol Eglwys Fair
Caerdydd
CF10 1AU
029 2087 1214
Talu eich rhent Marchnad Ganolog Caerdydd
Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i gwneud taliad i'r cyngor.
Sicrhewch fod gennych rhif eich cyfrif wrth law (8 rhif wedi'u dilyn gan lythyren).