Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ailbrisiad Ardrethi busnes

​​​​Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn diweddaru'r gwerthoedd ardrethol yn rheolaidd i bob busnes a phob eiddo annomestig arall (eiddo nad yw'n gartref preifat yn unig) yng Nghymru a Lloegr. Gelwir hyn yn ailbrisiad.

Gwerthoedd ardrethol yw swm y rhent y gallai eiddo fod wedi'i roi ar osod amdano ar ddyddiad prisio penodol. Ar gyfer prisiad 2023, y dyddiad hwnnw oedd 1 Ebrill 2021. 

​Defnyddiwn y gwerthoedd ardrethol hyn i gyfrifo biliau ardrethi busnes. 

Cynhaliwyd ailbrisiadau i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo, sy'n golygu bod biliau ardrethi busnes yn seiliedig ar wybodaeth ddiweddarach.

Bydd yr ailbrisio nesaf yn dod i rym rhwng 1 Ebrill 2026.​

Cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Rydym yn gyfrifol am unrhyw beth sy'n ymwneud â'ch biliau ardrethi busnes. Mae'r VOA yn gyfrifol am brisio'ch eiddo. Felly, bydd angen i chi gysylltu â'r VOA ar gyfer pob ymholiad ynglŷn â'ch gwerth ardrethol.

Dod o hyd i'ch gwerth ardrethol

Rydych yn gallu gweld y gwerth ardrethol i ddod ar gyfer eich eiddo a chael amcangyfrif o'ch bil ardrethi busnes 2023 i 2024, a beth y gallai hwnnw fod. Gallwch wneud hyn drwy Wasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes y VOA ar GOV.UK​.

Mae'r amcangyfrif yn seiliedig ar luosydd a rhyddhad ardrethi i fusnesau bach Cymru ar gyfer 2022 i 2023. Caiff y lluosydd ei ddiweddaru ar gyfer 2023 i 2024, cyn i filiau ardrethi busnes gael eu hanfon, a gall hyn arwain at newid i'r amcangyfrif a ddangosir.

Angen newid manylion eich eiddo



Cyn 1 Ebrill 2023, defnyddiwch y Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i'r VOA am newidiadau i fanylion eich eiddo (megis maint arwynebedd llawr a pharcio).

Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i chi gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i'r VOA am newidiadau​ i fanylion eich eiddo.

Mae'n bosibl y bydd y VOA yn derbyn eich newidiadau ac yn diweddaru'r prisiad presennol a'r prisiad yn y dyfodol.

Rydych o'r farn bod y gwerth ardrethol yn rhy uchel


Cyn 1 Ebrill 2023, defnyddiwch y Gwasanaeth Darganfod Prisiad Ardrethi Busnes ar GOV.UK i roi gwybod i'r VOA os ydych o'r farn bod y gwerth ardrethol yn rhy uchel.

Ar ôl 1 Ebrill 2023, bydd rhaid i chi gael cyfrif prisio ardrethi busnes i roi gwybod i'r VOA eich bod yn credu bod y gwerth ardrethol yn rhy uchel.

​​Mae'n rhaid i chi barhau i dalu'ch ardrethi busnes yn ôl yr arfer hyd nes bod y penderfyniad wedi'i wneud.​
© 2022 Cyngor Caerdydd