Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut a ble y gallaf dalu?

​​Gallwch wneud taliadau gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau isod:

Trefnu Debyd Uniongyrchol

Mae trefnu debyd uniongyrchol i dalu'ch bil Ardrethi Busnes yn gyflym ac yn hawdd. Lawrlwythwch ffurflen gais debyd uniongyrchol (34kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​ neu cwblhewch y mandad debyd uniongyrchol ar gefn eich bil Ardrethi Busnes.
Fel arall cysylltwch â ni drwy ffonio 029 20871491.

Dylid dychwelyd ffurflenni cais ar ôl eu cwblhau i:

Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD

Talu'ch bil Ardrethi Busnes ar-lein

Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i dalu’ch bil Ardrethi Busnes.

Sicrhewch fod eich rhif cyfrif a’ch manylion talu wrth law gennych. Mae rhif eich cyfrif yn 11 digid o hyd ac yn dechrau gyda 1.

System daliadau awtomatig dros y ffôn

Gallwch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd i dalu dros y ffôn. System daliadau awtomatig 24 awr yw hon.

Bydd angen y canlynol arnoch cyn i chi ffonio:

  • rhif cyfrif eich Ardrethi Busnes,
  • eich Cerdyn Debyd neu Gredyd,
  • y swm rydych am ei dalu.


Ffoniwch 029 2044 5900​​. Dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud eich taliad.​

Drwy’r Post

Anfonwch eich siec / archeb bost ynghyd â’ch cerdyn talu i:

Cyngor Caerdydd
Blwch SP 9000
Caerdydd
CF10 3WD

Dylid croesi sieciau a’u gwneud yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’. Ni ddylid anfon sieciau at unrhyw swyddog unigol. 

Ni dderbynnir sieciau ôl-ddyddiedig. 

Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.

I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor mae croeso i chi​ gysylltu â ni


Cysylltu â ni


​​

029 20871491

© 2022 Cyngor Caerdydd