Os byddwch chi'n anwybyddu'r ddirwy wreiddiol (HTC), bydd y gosb yn cynyddu. Byddwn yn gwneud cais i’r Ganolfan Gorfodi Traffig gofrestru'r swm sy'n ddyledus fel dyled. Bydd gwarant yn cael ei chyhoeddi a bydd costau cyfreithiol yn cael eu hychwanegu. Mae gwarant yn caniatáu inni gyhoeddi Rhybudd Gorfodi a chymryd camau adennill.
Er mwyn ein hatal rhag cymryd camau adennill ac ychwanegu costau pellach, bydd angen i chi dalu'r swm sy’n weddill yn llawn, gan gynnwys unrhyw gostau sydd eisoes wedi'u hychwanegu. Os na allwch dalu'r swm sydd ar yr Hysbysiad Gorfodi yn llawn, gallwch drefnu taliad gyda ni.
Mae ein gwybodaeth gyswllt ar yr Hysbysiad Gorfodi, neu gallwch ymweld â’ch
Hyb lleol.
Gallwch osgoi camau adennill trwy gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.
Os na fyddwch yn gwneud taliad llawn neu'n trefnu ad-daliadau gyda ni, byddwn yn cymryd camau adennill a bydd costau pellach yn cael eu hychwanegu.
Ffioedd gorfodi
£75
| Codir y ffi hon arnoch os na fyddwch yn talu.
Mae'r ffi yn angenrheidiol er mwyn i'ch dyled gael ei throsglwyddo i Asiantau Gorfodi. |
£235
| Codir tâl arnoch os bydd yn rhaid i Asiantau Gorfodi ymweld â chi yn eich eiddo.
Os yw'r ddyled yn fwy na £1,500, codir 7.5% arall arnoch.
|
£110
| Bydd yn rhaid i chi dalu'r ffi hon os bydd yn rhaid i Asiantau Gorfodi dynnu nwyddau o'ch eiddo a'u gwerthu mewn arwerthiant. Os yw'r ddyled yn fwy na £1,500, codir 7.5% arall arnoch.
|
Os yw eich dyled yn cael ei thrin gan un o'n hasiantaethau cysylltiedig, bydd angen i chi gysylltu â nhw i drafod ad-dalu.
Bristow and Sutor Enforcement Agency
Bartleet Road, Washford, Redditch, Worcs, B98 0FL
Ffôn: 033 0390 2010
Asiantaeth Gorfodi Sifil Excel
Marine House, 2 Marine Road, Bae Colwyn, Conwy, L29 8PH
Ffôn: 0330 363 9988
Marston Holdings
Marston, PO BOX 12019, Epping, CM16 9EB
Ffôn: 0333 320 1822
Os yw eich dyled yn cael ei thrin gan Asiant Gorfodi Cyngor Caerdydd, cysylltwch â ni.
Bydd manylion cyswllt yr asiant ar yr Hysbysiad Presenoldeb a adewir yn eich eiddo.
Sut i apelio yn erbyn gwarant
Unwaith y byddwch wedi derbyn Hysbysiad Gorfodi, rydych wedi colli'r hawl i apelio yn erbyn y drosedd wreiddiol a byddwch ond yn apelio yn erbyn y gwarant.
Ar hyn o bryd mae 4 rheswm posibl dros apelio:
- Ni chawsoch yr Hysbysiad i Berchennog neu Hysbysiad Tâl Cosb.
- Apeliais yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod Lleol i wrthod fy sylwadau, o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r hysbysiad gwrthod, ond heb gael ymateb i fy apêl.
- Cyflwynais sylwadau am yr hysbysiad tâl cosb i’r awdurdod gorfodi perthnasol o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r Hysbysiad i Berchennog, ond heb gael hysbysiad gwrthod.
- Mae'r tâl cosb wedi'i dalu'n llawn.
Gallwch gael y ffurflenni apelio trwy gysylltu â'r Ganolfan Gorfodi Traffig.
Ffôn: 0300 123 1059 neu 0160 461 9450
5ed Llawr
St Katharine's House
21-27 St Katharine's Street
Northampton
NN1 2LH
Fel arall, ewch i GOV.UK i lawrlwytho'r ffurflenni perthnasol.
Bydd angen i chi lenwi'r ffurflenni
TE7 a
TE9 a defnyddio'r rhif rhybudd HTC sy'n dechrau gyda QC.
Mae'n rhaid i chi anfon y ffurflenni i'r Ganolfan Gorfodi Traffig i gael eu prosesu.