Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth sy’n digwydd os byddaf yn derbyn HTC

​​Mae Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor yn patrolio'r Ddinas er mwyn atal gyrwyr rhag cyflawni troseddau parcio ac er mwyn cadw Caerdydd i symud. 

Yn ogystal mae unedau CCTV symudol sy'n ategu at waith ein Swyddogion ar y stryd mewn ardaloedd problemus lle mae'n bosib na fydd dulliau gorfodi traddodiadol yn briodol.

Cyflwynir Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) i unrhyw gerbydau y gwelir eu bod yn parcio yn groes i reoliadau parcio Caerdydd. 

£50.00 neu £70.00 fydd y gosb yn dibynnu ar y math o dramgwydd. Caiff y gosb hon ei gostwng gan 50% os telir o fewn 14 diwrnod.  

Os derbyniwch HTC, mae’n rhaid i chi benderfynu p’un a ydych am dalu’r gosb neu apelio. ​

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn anwybyddu’r Hysbysiad Tâl Cosb (HTC)? 

Os byddwch chi'n anwybyddu'r HTC, bydd y gosb yn cynyddu a bydd y Cyngor yn gwneud cais i’r Ganolfan Gorfodi Traffig gofrestru'r swm sy'n ddyledus yn ddyled. Yn dilyn hynny, bydd modd ei gasglu yn yr un modd ag y byddai swm yn cael ei gasglu pe bai’n daladwy dan orchymyn llys sirol. 

Bydd rhagor o gostau cyfreithiol yn ddyledus.

Canfod beth i'w wneud os ydych wedi derbyn Rhybudd Gorfodi​.​


​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd