Mae ein hyfforddwyr yn gymwys i addysgu tair lefel yr Hyfforddiant Beicio Cenedlaethol Safonol.
Dechreuwyr (lefel 1)
Mae hyn yn cynnwys:
- gwirio eich beic a’ch dillad
- sicrhau bod eich helmed yn ffitio
- esgyn a dod oddi ar eich beic
- cychwyn ac aros yn ddiogel
- rheoli eich beic a rheoli’r beic wrth arwyddo, ac edrych yn ôl
Caiff yr hyfforddiant ei wneud mewn amgylchedd sydd yn rhydd o draffig
Canolradd (lefel 2)
Disgwylir i’r hyfforddeion ddod i gasgliadau a gwneud penderfyniadau ar gyffyrdd ac ar ffyrdd sydd â thraffig wrth droi i’r dde ac i’r chwith.
Profiadol (lefel 3)
Disgwylir i hyfforddeion fynd i’r afael â pheryglon a gwneud penderfyniadau ar ffyrdd pwysig a sefyllfaoedd cymhleth yn ymwneud â chylchfannau a goleuadau traffig mewn traffig trwm.
Cyflwynir y lefelau hyn fel arweiniad.
Ar ddechrau’r sesiwn, bydd ein hyfforddwyr yn asesu lefel eich cymhwysedd ac yn sgwrsio â chi ynghylch yr hyn yr hoffech ei gael allan o’r hyfforddiant. Gallan nhw wedyn ei deilwra ar gyfer eich anghenion penodol.
Costau
Mae ein sesiynau hyfforddi yn hollol rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghaerdydd.
Yr hyn ddylech ddod gyda chi
- Eich beic. Rhowch wybod i ni os nad ydych chi’n berchen ar feic
- Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo helmed a dillad llachar
Cadw lle ar hyfforddiant beicio
I archebu hyfforddiant beicio, llenwch y ffurflen cysylltu â ni.
Cysylltu â ni
Canslo ac Aildrefnu
Os oes rhaid i chi ganslo neu aildrefnu sesiwn, rhowch 24 awr o rybudd i’n hyfforddwyr. Yn anffodus os byddwch yn methu â gwneud hynny ni fyddwn yn gallu cynnig hyfforddiant i chi yn y dyfodol.