Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyrsiau Hyfforddiant Beicio i Blant

​​​​Cynigiwn Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol (lefel 1 a 2) i holl  ysgolion cynradd Caerdydd.

 

Safon Genedlaethol lefel 1

Mae hyn yn cynnwys:

  • gwirio eich beic a’ch dillad
  • sicrhau bod eich helmed yn ffitio
  • esgyn a dod oddi ar eich beic
  • cychwyn ac aros yn ddiogel
  • rheoli eich beic, a
  •  a rheoli’r beic wrth arwyddo, ac edrych yn ôl.


Caiff yr hyfforddiant ei wneud mewn amgylchedd sydd yn rhydd o draffig

Safon Genedlaethol lefel 2


Disgwylir i’r hyfforddeion ddod i gasgliadau a gwneud penderfyniadau ar gyffyrdd ac ar ffyrdd sydd â thraffig wrth droi i’r dde ac i’r chwith.


Mae gwisgo helmed feicio yn orfodol ar bob un o’n cyrsiau hyfforddi beicio.


Os ydych yn aelod o staff ysgol ac am wybodaeth bellach neu am archebu cwrs ar gyfer eich ysgol, cysylltu â ni neu ffoniwch 029 2078 8528.

Cyrsiau gwyliau



Rydym yn cynnig cyrsiau hyfforddi Dysgu Beicio a Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol (lefel 1 a 2) i blant yn ystod gwyliau ysgol.

Cysylltu â ni


Os hoffech wybodaeth bellach neu i gadw lle ar gwrs, cysylltu â ni drwy ebost​ neu drwy'r ffurflen yma.


Cysylltu â ni




​​
© 2022 Cyngor Caerdydd