Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Bysiau Cerdded

​​​​​​Mae’r Bws Cerdded yn ffordd amgen i blant a rhieni i deithio i ac o’r ysgol yng Nghaerdydd.Wedi ei staffio un ai gan staff ysgol neu wirfoddolwyr o rieni a hyfforddwyd, mae’n cynnig ymarfer corff rheolaidd i blant a’r cyfle i ddatblygu sgiliau diogelwch ar y ffordd hanfodol tra’n cerdded.


Mae cerdded yn hwyl, yn iach ac yn cynnig ymarfer corff dyddiol pwysig. Drwy gefnogi’r Bws Cerdded gallwch helpu i leihau traffig, sŵn, tagfeydd a llygredd ger ysgolion.


Gall Cynlluniau Bws Cerdded weithredu mewn dwy ffordd wahanol:  

Parcio a Chamu

 ​
Bws cerdded o faes parcio penodedig. Yn y boreau, mae disgyblion yn ymgasglu yn y maes parcio penodedig, yna bydd oedolion sy’n gwirfoddoli yn eu hebrwng gweddill y daith gerdded i’r ysgol.  Ar ddiwedd y diwrnod ysgol, bydd oedolion sy’n gwirfoddoli yn hebrwng disgyblion ar y daith yn ôl i’r maes parcio. Yn ogystal, gallai’r math hwn o fws cerdded fod â ‘safleoedd bws’ ar hyd ei lwybr cerdded i godi a gollwng mwy o ddisgyblion ar amseroedd penodol.  

Bws Cerdded

Bws cerdded sy’n dilyn llwybr a bennwyd rhag blaen. Mae oedolion sy’n gwirfoddoli yn dechrau wrth fan dechrau penodedig ac yn dilyn llwybr a benderfynwyd arno’n barod gan stopio wrth ‘safleoedd bws’ a drefnwyd yn barod ar amseroedd penodol i godi disgyblion ar y ffordd i’r ysgol. Ar y daith yn ôl, mae’r bws cerdded yn dilyn yr un llwybr gan ollwng disgyblion wrth y ‘safleoedd bws’. 


Os ydych yn rhiant, athro neu lywodraethwr ac am fwy o wybodaeth ynghylch sut mae dechrau Bws Cerdded cysylltwch ag aelod o’r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd drwy cysylltu â ni neu ffonio 029 2078 8521.

Cysylltu â ni


 

© 2022 Cyngor Caerdydd