Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

​​​​​​Mae Budd-dal y Dreth Gyngor wedi cael ei ddisodli gan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

 

Os ydych ar incwm isel, gallai gostyngiadau’r Dreth Gyngor helpu i dalu’ch bil Treth Gyngor.

 

Efallai y bydd gennych hawl i ostyngiadau ac eithriadau eraill o'ch bil Treth Gyngor, yn seiliedig ar eich amgylchiadau, nid eich incwm.  Dysgwch fwy am ostyngiadau eraill y Dre​th Gyngor.

Ydw i’n gymwys i gael Gostyngiad y Dreth Gyngor?

 

Mae Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gael i chi os ydych yn talu’r Dreth Gyngor ar y cartref rydych yn byw ynddo fel arfer. Gallwch wneud cais amdano p’un a ydych yn berchen ar eich cartref eich hun neu’n rhentu lle i fyw ynddo.

 

Gallwch hawlio gostyngiad y Dreth Gyngor i helpu i dalu’ch Treth Gyngor p’un a ydych chi’n:

 

  • cael budd-daliadau eraill, credydau treth, neu bensiynau (yn cynnwys Credyd Cynhwysol)
  • gweithio
  • di-waith
  • ddim yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd
  • yn gofalu am blentyn neu oedolyn
  • wedi ymddeol

 

Ond nid oes gan bawb sy’n gwneud cais am fudd-dal hawl i’w gael.

 

Os oes gennych cyfalaf (e.e. gynillion, briodwedd, neu unrhyw ased arall) ​o £16,000 neu fwy, ni fydd gennych hawl i Fudd-dal Tai oni bai eich bod yn cael Credyd Gwarant Credyd Pensiwn.

 

Y ffordd orau o gael gwybod a allwch gael gostyngiad yw cysylltu â ni.


Ffôn 029 2087 1071

 

Os ydych yn talu rhent, a ddim yn derbyn Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch gael Budd-dal Tai hefyd.


Cysylltu â ni



 

​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd