Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut y caiff Budd-dal Tai ei gyfrifo

​​​​​​Mae faint o Fudd-dal Tai a gewch yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion.

 

Byddwn yn cyfrifo faint o arian sydd ei angen arnoch i fyw, yn seiliedig ar amgylchiadau’r teulu. Os yw'ch incwm yn fwy na’ch anghenion – yn ôl ffigurau’r llywodraeth – bydd faint o fudd-dal a gewch yn cael ei leihau.

 

Gallai hefyd gael ei leihau os oes gennych oedolion eraill yn byw yn eich cartref neu os ydych yn byw mewn eiddo sy’n fwy nag sydd ei angen arnoch. 

Tenantiaid y Cyngor a Chymdeithasau Tai 

Os ydych yn denant i’r cyngor neu gymdeithas tai, bydd eich Budd-dal Tai yn seiliedig ar eich rhent gwirioneddol (ac eithrio rhai costau gwasanaeth) oni bai bod gennych ystafelloedd gwely sbâr. Dysgwch fwy am y rheolau ar faint sef ‘y dreth ystafell wely’. 

Rhentu gan Landlord Preifat 

I denantiaid preifat, mae Budd-Dal Tai yn seiliedig ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol, nid cost wirioneddol y rhent.

 

Lwfans Tai Lleol

Lwfans Tai Lleol yw’r swm uchaf o Fudd-dal Tai a all gael ei dalu am eiddo.Mae’n ystyried nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch chi a’ch aelwyd a’r rhent a godir am eiddo maint tebyg yn yr ardal honno.

 

Bydd eich cyfradd Lwfans Tai Lleol yn penderfynu ar y lefel uchaf o Fudd-dal Tai y gallech ei chael, ond bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol.

 

Gallech gael Lwfans Tai Lleol os ydych yn rhentu gan landlord preifat, ac:

  • eich bod yn gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai,
  • os ydych yn newid cyfeiriad,
  • os bu saib yn eich hawliad ers 7 Ebrill 2008.

 


 

Cyfraddau ​Lwfans Tai Lleol 2023 i 2024
Nifer yr ystafelloeddCyfradd wythnosol
​Cyfradd bob 4 wythnos

Llety a rennir

£71.34

£285.36

1 ystafell wely hunangynhwysol 

£120.82

£483.28​

2 ystafell wely

£149.59

£598.36

3 ystafell wely

£178.36​

£713.44

4 ystafell wely

£218.63

£874.52​

Mae’r cyfraddau hyn yn berthnasol o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024, ac yn dangos swm uchaf y budd-dal y gallwch ei hawlio. Caiff y cyfraddau eu hadolygu bob blwyddyn.  ​

Cyfraddau ​Lwfans Tai Lleol 2024 i 2025
Nifer yr ystafelloeddCyfradd wythnosol
​Cyfradd bob 4 wythnos

Llety a rennir

£84.25

£337

1 ystafell wely hunangynhwysol 

£149.59

£598.36

2 ystafell wely

£189.86

£759.44

3 ystafell wely

£212.88

£851.52

4 ystafell wely

£299.18

£1196.72

Mae’r cyfraddau hyn yn berthnasol o 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025.


Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau penodol gan ystyried eich incwm a’ch cynilion a ph’un a oes oedolion eraill yn byw yn yr eiddo.

Caniateir un ystafell wely ar gyfer pob un o’r canlynol:

 

  • oedolyn sengl neu gwpl,
  • unrhyw oedolyn arall (dros 16 oed),
  • dau blentyn o'r un rhyw sydd dan 16 oed,
  • dau blentyn o unrhyw ryw ill dau dan 10 oed,
  • unrhyw blentyn arall.



Gallai fod gennych hawl i un ystafell ychwanegol os:


  • ​rydych yn ofal​wr maeth
  • fod gan rywun yn eich cartref ofalwr dros nos amhreswyl
  • oes yno blentyn anabl na all rannu ystafell wely
  • fod oedolyn o gwpl yn eich cartref yn methu â rhannu ystafell wely oherwydd ei anabledd​


Os ydych chi’n sengl a dan 35 oed fel arfer bydd gennych hawl i gael y gyfradd llety a rennir yn unig, pa fath bynnag o lety yr ydych yn byw ynddo.


Os ydych yn byw mewn tŷ a rennir, e.e. fel cyd-denant, byddwch fel arfer yn cael y gyfradd llety a rennir.


Os yw maint eich eiddo’n golygu y byddai angen eiddo â mwy na 4 ystafell gwely ynddo fel arfer, bydd eich budd-dal yn seiliedig ar y gyfradd 4 ystafell wely.

 

Achosion lle nad yw’r Lwfans Tai Lleol yn berthnasol 

Nid yw’r LTLl yn berthnasol os:

 

  • rydych wedi cael Budd-dal Tai i’r un eiddo ers cyn 7 Ebrill 2008
  • oes gennych rent teg cofrestredig
  • rydych yn byw mewn llety â chymorth
  • rydych yn byw mewn hostel, carafán neu dŷ preswyl
  • â phrydau bwyd wedi’u cynnwys fel rhan o’ch rhent.

 

Os ydych yn rhentu gan landlord preifat ond eich bod yn un o’r categorïau uchod, bydd eich Budd-dal Tai yn seiliedig ar brisiad o’ch eiddo gan y Swyddog Rhent. 

 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cysylltwch â ni.

​​Cysylltu â ni



 

​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd