Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynnig Gofal Plant Cymru

​​

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​

chilcare offer_EN.png​ 

​ 

Cynnig Gofal Plant Cymru: Help gyda chostau gofal plant i rieni cymwys â phlant 3 a 4 oed.

Gallwch hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos. Mae'r cynllun yn cwmpasu hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn helpu rhieni cymwys i:

  • ddychwelyd i’r gwaith 
  • cynyddu eu horiau
  • gweithio’n fwy hyblyg
  • mynd yn ôl i addysg neu hyfforddiant 




 

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu rhieni cymwys gyda 30 awr cyfunol o ofal plant a Darpariaeth Ddysgu Sylfaen (addysg gynnar) a ariennir gan y llywodraeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

Mae’r 48 wythnos yn cynnwys 39 wythnos o addysg a gofal plant cyfunol adeg tymor ysgol ynghyd â 9 wythnos o ofal plant y tu allan i dymhorau ysgol.

Byddwch yn atebol am unrhyw ofal plant sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod y 4 wythnos na thelir amdanynt. Wythnosau gwyliau ysgol fydd y rhain bob amser.​​

39 wythnos o addysg a gofal plant cyfunol yn ystod tymor ysgol
Provision
Awr yr wythnos​
​Darpariaeth ddysgu sylfaen (addysg gynnar)
12.5 awr
Cynnig gofal plant 
17.5 awr

​= 30 awr

9 wythnos o ddarpariaeth ‘wyliau’ y tu allan i dymhorau ysgol
Provision
Awr yr wythnos
​Cynnig gofal plant
30 awr​​​

Nid oes angen i chi wneud cais am addysg gynnar er mwyn defnyddio elfen gofal plant y Cynnig. Bydd eich hawl yn cynnwys yr oriau hyn boed ydych yn eu defnyddio ai peidio.  Dysgwch sut i wneud cais am le addysg gynnar.

Mae arian y Cynnig Gofal Plant ar gyfer y gofal plant y mae’r gweithwyr proffesiynol yn y lleoliad yn ei ddarparu. Nid yw’n cynnwys bwyd, trafnidiaeth na gweithgareddau oddi ar y safle y codir cost ychwanegol ar eu cyfer a bydd y darparwyr yn gallu codi ffi arnoch am y rhain. 

Os hoffech fanteisio ar y cynllun Gofal Plant Di-dreth i helpu gyda'r costau ychwanegol hyn, bydd angen i chi gyflwyno cais ar wahân ar wefan GOV.UK. Dysgwch fwy am y Cynllun Gofal Plant Di-dreth​.​



Rydych yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant os ydych yn byw yng Nghymru, bod gennych blentyn 3 neu 4 oed, a’ch bod naill ai:

  • Yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac yn ennill o leiaf yr hyn sy'n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar y gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol a llai na £100,000 y flwyddyn.
  • Wedi’ch cofrestru ar gwrs addysg bellach neu gwrs israddedig neu ôl-radd addysg uwch sydd o leiaf 10 wythnos o hyd. 


Os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, rhaid iddo hefyd fodloni'r meini prawf.

Os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol, mae arian ychwanegol ar gael. Cysylltwch â ni os gall fod angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn.


Ni allwn gadarnhau a ydych yn gymwys nes ein bod wedi derbyn a phrosesu eich cais gorffenedig.


Gallwch ddewis unrhyw ddarparwr gofal plant sydd wedi cofrestru ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ac sydd wedi’i gofrestru hefyd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cewch weld a yw eich darparwr dewisol wedi cofrestru ar hyn o bryd drwy gysylltu â'r tîm Cynnig Gofal Plant ar 03000 628 628 neu wirio Dewis Cymru.

Nid yw gwneud cais yn gwarantu lle gofal plant.

Pryd i wneud cais
Dyddiad geni'r plentyn
Cymwys o
Cymwys i
Ceisiadau ar agor
1 Medi 2019 i 31 Awst 2020

31 Awst 2024
Ar agor
​1 Medi 2020 i 31 Rhagfyr 2020
​8 Ionawr 2024
​31 Awst 2025
​Ar agor
​1 Ionawr 2021 i 31 Mawrth 2021
​8 Ebrill 2024
​31 Awst 2025
Ar agor
​1 Ebrill 2021 i 31 Awst 2021
​2 Medi 2024
​31 Awst 2025
​4 Mehefin 2024
Gwrthodir ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad agor.

Os ydych yn gymwys bydd eich arian yn dechrau ar ôl i chi sefydlu cytundeb gofal plant​ gyda'ch darparwr ac ar ôl i’r cytundeb hwn gael ei dderbyn.​

Mae’r cais hwn ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn unig. Rhaid i chi fynd i Dderbyniadau Meithrin i wneud cais am addysg gynnar​

Byddwn yn cynnal gwiriadau cymhwysedd bob tymor. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni a'r lleoliad gofal plant os yw eich amgylchiadau wedi newid. 

Os yw amgylchiadau eich teulu wedi newid ac nad ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun mwyach, byddwch yn dal i allu manteisio ar y Cynnig am 8 wythnos, gan roi cyfle i chi ddod yn gymwys eto.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os hoffech drafod eich cais, yna cysylltwch â ni.

Ffôn:  03000 628 628

Ebost: cynniggofalplantcaerdydd@caerdydd.gov.uk​


Dewch o hyd i ni ar Facebook
Dewch o hyd i ni ar Twitter.
Dewch o hyd i ni ar Instagram​.



​​​​​​​​​​​​ ​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd