Mae gan blant hawl i gael lle rhan-amser mewn meithrinfa o ddechrau'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn 3 oed.
Byddant yn aros yn yr ysgol feithrin tan y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4 oed pan fyddant yn dechrau’r dosbarth derbyn yn yr ysgol.
Mae ceisiadau wedi cau. Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau i wneud cais am le meithrin i ddechrau ym mis Medi 2024, cwblhewch gais hwyr.
Cwblhewch y ffurflen gais hwyr
Mewngofnodwch i’r system Derbyn i ysgolion
Gallwch
weld dyddiadau pwysig ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol.
I gael rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch y
llyfryn derbyn i ysgolion 2024 i 2025 (6.9mb PDF).
Addysg Gymraeg
Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, pa bynnag iaith rydych yn ei siarad gartref.
Mae teuluoedd o bob math yn elwa ar addysg Gymraeg: teuluoedd nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg a rhai sydd yn ei siarad hi, teuluoedd o bob math o gefndir ethnig a chrefyddol, teuluoedd o Gymru a’r rhai sydd wedi symud yma o rywle arall.
Mae addysg Gymraeg yn galluogi plant i ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gall roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i'ch plentyn.
Y Broses ymgeisio
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2021 a 31 Mawrth 2022
29 Ionawr 2024
| Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin ym mis Medi 2024 yn cychwyn. Bydd y gwasanaeth Ymgeisio Ar-lein yn agor.
|
26 Chwefror 2024
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
|
Chwefror i Ebrill 2024
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni. |
7 Mai 2024
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
Mai 2024
| Creu rhestrau aros.
|
21 Mai 2024
| Dyddiad olaf i chi wrthod lle a gynigiwyd i chi. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
|
Mehefin 2024
| Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.
|
Gorffennaf 2024
| Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. |
Medi 2024
| Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.
|
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021
| Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Ysgol Feithrin yng Ngwanwyn Haf 2024 yn cychwyn. Bydd y gwasanaeth Ymgeisio Ar-lein yn agor. |
3 Gorffennaf 2023
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr. |
Gorffennaf i Medi 2023
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni.
|
2 Hydref 2023
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
Hydref 2023
| Creu rhestrau aros.
|
16 Hydref 2023
| Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
Tachwedd 2023 | Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu |
Rhagfyr 2023 | Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. |
Tymor y Gwanwyn i dymor yr Haf 2024 | Plant yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin.
|
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar-lein:
Cysylltu â ni
Neu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.